Eisteddfod 2025: Cyhoeddi prif artistiaid Maes B

Adwaith fydd yn cloi'r perfformiadau ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Mae prif artistiaid Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 wedi eu cyhoeddi.
Bwncath, Gwilym, Fleur de Lys ac Adwaith fydd yn cloi'r perfformiadau ar brif lwyfan y maes ieuenctid eleni.
Bydd cyngherddau Maes B yn dechrau ar nos Fercher 6 Awst, ac yn dod i ben ar nos Sadwrn 9 Awst.
Fe fydd gweddill yr artistiaid a DJ's yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd.

Fleur de Lys fydd prif artist Maes B ar nos Wener 8 Awst
Bwncath fydd y prif fand ar y nos Fercher agoriadol, a hwythau gydag albwm newydd ar y ffordd y flwyddyn nesaf.
Y band poblogaidd Gwilym fydd yn cloi arlwy Maes B ar y nos Iau.
Fleur de Lys - prif artist nos Sadwrn Maes B y llynedd - fydd yn cloi perfformiadau nos Wener.
Ac Adwaith fydd yn cloi'r bedwaredd noson o gerddoriaeth Gymraeg ym Maes B - dyma fydd yr eildro i'r grŵp o ardal Caerfyrddin fod yn brif artist ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod.
Mae Adwaith hefyd yn rhyddhau eu halbwm diweddaraf y flwyddyn nesaf.
Bydd tocynnau i Maes B yn mynd ar werth ar 4 Rhagfyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd1 Awst 2023
- Cyhoeddwyd10 Awst 2024