Dyn yn gwadu treisio dynes ar fideo yng Nghaerdydd
![Liam Stimpson](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/461/cpsprodpb/d242/live/207e6210-1cfa-11ef-baa7-25d483663b8e.jpg)
Liam Stimpson yn cael ei hebrwng i'r llys
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o dreisio dynes ddwywaith yng nghanol Caerdydd a ffilmio'r ymosodiad ar ei ffôn symudol wedi gwadu'r honiadau.
Dywedodd Liam Stimpson, 24 oed o Gaerdydd, fod y ddynes 40 oed wedi dweud wrtho ei bod hi eisiau "rhyw garw".
Dywedodd wrth y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd ei bod wedi cydsynio i gael rhyw a'i bod wedi gofyn iddo recordio'r digwyddiad fel rhan o chwarae rôl rywiol.
Mae’n gwadu dau gyhuddiad o dreisio - un o wneud i berson gymryd rhan mewn gweithgaredd rywiol heb gysyniad a'r llall o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
Rhybudd: Gallai'r cynnwys beri loes
Wedi'i wisgo mewn siwt las a thei, aeth i'r brifddinas ar Ŵyl San Steffan y llynedd i ddathlu ei ben-blwydd gyda ffrind.
Dywedodd iddo gwrdd â’r ddynes y mae’n ei disgrifio fel “gweithiwr rhyw” wrth iddo gerdded drwy ganol y ddinas yn oriau mân 27 Rhagfyr.
Dywedodd iddi gynnig gweithred ryw iddo mewn lôn oddi ar Heol Eglwys Fair am £20.
Mae Mr Stimpson yn honni bod y ddynes, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, wedi dwyn £250 oddi arno.
Dywedodd wrth y llys ei bod wedi cydsynio i gael rhyw pellach a cherddodd y pâr o dan y bont reilffordd yn agos at orsaf ganolog y brifddinas.
Mewn cyfres o glipiau fideo a ddangoswyd i'r rheithgor, gellir gweld y ddynes yn noeth. Roedd hi'n gwaedu a'i llygad dde wedi chwyddo - anafiadau a gafodd wedi iddi ddisgyn ar ei ffordd i'r bont, medd Mr Stimpson.
Yn un rhan o'r fideo mae hi i'w gweld yn gwasgu ei dwylo mewn gweddi, mae dagrau'n llifo i lawr ei hwyneb, a gellir ei chlywed yn dweud: "Paid â curo fi, babi, paid â'm curo plis."
Mae Mr Stimpson yn honni eu bod wedi trafod beth fyddai'n digwydd yn y chwarae rôl cyn iddo ddechrau recordio, gan ddweud wrth y llys, "roedd popeth yn gydsyniol".
"Gallai hi fod wedi gadael ar unrhyw adeg o'i hewyllys ei hun," meddai.
Mae’r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2024