Addysgu cenhedlaeth TikTok am waith Dylan Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae’r gantores Taylor Swift ar y ffordd i Gaerdydd i berfformio yn Stadiwm y Principality.
Mae disgwyl i’r gyngerdd nos Fawrth, sy’n rhan o'r 'Eras Tour', gyfrannu’n fawr at economi’r brifddinas, ond mae un amgueddfa yn Abertawe yn gobeithio croesawu ‘Swifties’ yno hefyd.
Yn ei chân ddiweddaraf mae’r gantores yn cyfeirio at y bardd Dylan Thomas, ac mae elusennau sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o'i waith yn gobeithio manteisio ar y cyfle.
Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd “cenhedlaeth newydd” yn dangos diddordeb yn y bardd.
O Johnny Depp i Taylor Swift
Cafodd Dylan Thomas ei eni yn Cwmdonkin Drive yn Abertawe yn 1914.
Mae’r tŷ, lle cyfansoddodd y bardd ei gerddi cyntaf, bellach wedi ei droi yn amgueddfa ac yn elusen.
Mae Alun Gibbard yn gyd-guradur, ac yn credu bod y cyfeiriad at y bardd yn un o ganeuon Taylor Swift yn “anhygoel”.
“O’n i ddim ond jest wedi dod dros y sioc a’r effaith gafodd ymweliad Johnny Depp â'r man geni llynedd. Creodd hynny cryn dipyn o stŵr a diddordeb,” meddai.
“Wedyn yn sydyn reit, dyma ni’n gallu cyrraedd cenhedlaeth gwbl newydd.
"Symud o Johnny Depp i genhedlaeth TikTok trwy Taylor Swift.”
Ychwanegodd ei fod yn “amhrisiadwy” i’r elusen, wrth geisio denu ymwelwyr ifanc.
“Does 'na ddim grantiau, does 'na ddim cymorth ariannol swyddogol o unrhyw fath. Mae’n dipyn o ymdrech i gadw’r lle i fynd.”
Bydd Taylor Swift yn perfformio yn Stadiwm y Principality ar nos Fawrth 18 Mehefin.
Dyma’r unig noson y bydd hi’n perfformio yng Nghymru fel rhan o'r daith bresennol.
Mae man geni Dylan Thomas wedi manteisio ar y cyfle wrth werthu crysau-t a phosteri cyn y gyngerdd.
Geoff Haydn yw curadur yr elusen, dywedodd ei bod hi’n bwysig cael nwyddau o'r fath yn y Gymraeg.
“Er mai dim ond yn Saesneg roedd Dylan yn ysgrifennu, roedd e’n fardd Cymraeg ac yn cael ei ddylanwadu gan yr iaith Gymraeg.”
'Ysgolion ddim yn gwneud digon'
Dywedodd yr elusen bod y gwaith o ddenu ymwelwyr - yn enwedig pobl ifanc - i fan geni Dylan Thomas yn "barhaol".
Yn ôl Mr Gibbard nid yw’n “gallu cymryd yn ganiataol” bod pobl ifanc yn gwybod pwy yw Dylan Thomas, wrth iddo ymweld ag ysgolion.
“Mae’n rhwystredigaeth i mi’n bersonol nad ydy ysgolion yn gwneud mwy am Dylan Thomas.
"Mae ‘na ardaloedd penodol sydd â chysylltiadau uniongyrchol gyda Dylan lle gallen nhw yn rhwydd addasu’r cwricwlwm.”
“Mae Abertawe’n un amlwg, Sir Gaerfyrddin, Talacharn, Cei Newydd.”
Mae Anna Jones, athrawes Saesneg yn Ysgol y Strade, yn cytuno dylid gwneud mwy i addysgu plant am y bardd.
“Mae dysgwyr yn ofni cerddi os dwi’n onest. Mae’n hynod o bwysig i fi ein bod ni yn cael cymysgedd felly ein bod ni yn cael rhywun fel Dylan Thomas ar y cwricwlwm,” meddai.
Ychwanegodd y byddai’n ystyried cynnwys mwy o’i waith mewn gwersi "yn enwedig nawr gyda’r newidiadau a Chwricwlwm i Gymru".
Mae’r ysgol wedi ychwanegu un o ganeuon Swift, Cardigan, at gwricwlwm blwyddyn 9.
Fe ddywedodd Anna Jones: “Rwy'n Swiftie fy hun a fi’n rili falch eu bod nhw’n mwynhau.
"Fel arfer maen nhw’n clywed ein bod ni’n neud cerddi a dyw’r ymateb ddim yn wych bob tro."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Wrth ddewis llenyddiaeth i’w hastudio, byddem yn annog ysgolion i wneud dewisiadau priodol sy’n cydbwyso hyd a lled y cwricwlwm ag anghenion eu dysgwyr.”
Roedd disgyblion blwyddyn 9 Ysgol y Strade yn falch o glywed enw bardd o Gymru yn y gân.
Meddai Libby, 14 oed: “O’n i ddim yn deall ei fod e mor influential i lawer o bobl. Hyd yn oed yn America. Felly dwi eisiau edrych yn fwy i weld beth oedd Taylor Swift yn siarad amdano.”
Mae Isabella sy’n 13 oed yn hoff o farddoniaeth, ac fe ysgogodd y gân iddi ddarllen gwaith y bardd.
“Wnes i ddarllen Fern Hill. Felly dwi’n cymryd fwy o ddiddordeb.”
Bydd dilynwyr Taylor Swift yn teithio o bedwar ban byd i’w gweld yn canu yng Nghaerdydd.
Fe fydd yr Eras Tour yn rhoi hwb o bron i £1bn i wariant yn y DU eleni, yn ôl adroddiad cafodd ei gyhoeddi mis diwethaf gan Barclays.
Yn ôl yr adroddiad, mae disgwyl i bobl wario £848 yr un ar gyfartaledd ar docynnau, teithio, llety a gwisgoedd.
Meddai Alun Gibbard: “Mae rhai pobl sydd yn mynd i gyngherddau yng Nghaerdydd yn galw draw y diwrnod ar ôl ny’ neu’r diwrnod cyn. Gobeithio bydd Swifties yn gwneud union hynny.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill
- Cyhoeddwyd14 Mai