Ydy buwch yn gallu darogan y tywydd?

  • Cyhoeddwyd

Oes ‘na unrhyw beth sy’n gallu cynnal sgwrs rhwng pobl yn fwy na thrafod y tywydd?

O gyfarch y naill a’r llall gyda “Mae’n braf...” neu “Ew, tywydd garw!”, rydyn ni’n debygol iawn o gynnwys y tywydd yn ein sgyrsiau dyddiol.

Law yn llaw â’n diddordeb cyfareddol yn y tywydd mae ‘na goelion lu ym myd natur sydd, mae’n debyg, yn gallu ein helpu ni gyda’r rhagolygon.

Ffynhonnell y llun, Getty/Alasdair James

Os yw’r gwartheg yn gorwedd i lawr mae’n arwydd fod glaw ar y ffordd

O bosib, y goel ei bod hi am lawio os yw buwch yn gorwedd i lawr yw un o'r rhai mwyaf cyffredin yma yng Nghymru.

Mae’n annhebygol iawn bod gan wartheg allu i ddarogan glaw neu ddim, ond er hynny fe glywch amdani ym mhob cwr o'r wlad. Yn ôl y gred, un o’r rhesymau mae gwartheg yn gwneud hyn yw er mwyn cadw patshyn sych o laswellt i orffwys arno pan ddaw’r glaw.

Tarddiad y coelion hyn yw pethau y mae pobl, ffermwyr yn yr achos hwn, wedi sylwi arnynt dros y blynyddoedd. Ac er nad oes gwyddoniaeth sicr i gefnogi'r goel am wartheg a glaw mae'r straeon wedi cydio yn nychymyg y werin ac felly wedi aros.

Beth mae coed yn ei ddweud wrthom?

Ffynhonnell y llun, Getty/Schon

Mae yna gred am y ddraenen ddu pan mae ei blodau'n doreithiog. Yn ôl y gred, dylai'r holl flodau gwynion ar y ddraenen ddu yn gynnar yn y gwanwyn fod yn rhybudd i arddwyr.

Gallai'r blodau dwyllo un i feddwl bod tywydd oer y gaeaf wedi pasio, ond mae'r ffaith ei bod yn flodeuog yn dweud yn wahanol! Felly dylai garddwyr gymryd gofal ychwanegol o’r hadau a’r eginblanhigion y byddan nhw’n eu plannu a’u gwarchod rhag rew ac oerfel annisgwyl.

Mae hen bennill Gymreig am sut gall y ddraenen gynnig cynghorion eraill i arddwyr hefyd:

Pan fo’r ddraenen ddu yn wych

Hau dy had os bydd yn sych,

Pan fo’r ddraenen wen yn wych

Hau dy had boed wlyb neu sych.

Pa gyfrinachau mae'r awyr yn eu cadw?

Ffynhonnell y llun, Getty/WL Davies

Yn aml iawn, byddwn ni’n codi’n trwynau tuag at yr awyr i weld pa dywydd sydd ar ei ffordd.

Un dywediad Cymreig yw “haul gwyn gwan glaw yn y man.” Mae’n cyfeirio at pan fydd haul i’w weld yn yr awyr ond nid yw mor llachar ag arfer. Efallai bod cymylau tenau wedi hel o’i flaen gan bylu ei belydrau. Pan fydd hyn yn digwydd, mae'n debyg ei fod yn arwydd am law.

Efallai eich bod chi'n gyfarwydd hefyd â'r coelion am awyr goch yn y nos a'r bore yn darogan a fydd y tywydd yn ffafriol neu'n anffafriol i forwyr. Mae'n debyg bod rhyw resymeg tu ôl i'r coelion hynny gan mai lleithder yn yr awyr sydd fel arfer yn achosi'r wybren i fod yn goch yn y bore.

Mwy o goelion

Ffynhonnell y llun, Wirestock

Pan mae'r mynyddoedd yn edrych yn agos mae glaw i ddod, pan fydd dŵr yn llifo'n gryf o darddiad y graig yna mae tywydd braf i ddod neu bod storm ar y gorwel os yw tywydd poeth yn para'n rhy hir; mae'r credoau ac ofergoelion am y tywydd yn fynych ac amrywiol.

Er bod y credoau hyn yn aml iawn yn ddi-sail, does dim dwywaith eu bod nhw'n help mawr wrth benderfynu gadael y tŷ gyda chôt law neu ddim...!

Pynciau cysylltiedig