Ffordd ar gau ar ôl i berson gael ei ladd yn Sir Gâr

heddluFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae un person wedi marw ac un arall wedi'i gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad tri cherbyd ar yr A48 ger Foelgastell yn Sir Gaerfyrddin.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod y gwrthdrawiad wedi digwydd tua 10:50 fore Gwener.

Mae'r A48 rhwng Cross Hands a Llanddarog yn parhau i fod ar gau i'r ddau gyfeiriad.

Mae'r heddlu yn gofyn i deithwyr osgoi'r ardal gan ei bod yn debygol y bydd y ffordd yn parhau i fod ar gau am gryn amser.

Pynciau cysylltiedig