Heddlu'r Gogledd yn helpu wedi anhrefn Southport

Southport
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Heddlu Glannau Mersi bod poteli a biniau wedi cael eu taflu at blismyn nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae plismyn o Heddlu'r Gogledd ymhlith y lluoedd sy'n cynorthwyo Heddlu Glannau Mersi yn dilyn anhrefn yn Southport.

Yn ôl y Gwasanaeth Ambiwlans lleol cafodd 39 o blismyn eu hanafu yn y dref nos Fawrth oriau wedi i wylnos gael ei chynnal yno i gofio dioddefwyr yr ymosodiad cyllell lle bu farw tri o blant.

Mae llanc 17 oed sy'n wreiddiol o Gaerdydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ac o geisio llofruddio wedi'r ymosodiad ddydd Llun mewn clwb dawns i blant.

Amser cinio ddydd Mercher cadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi cael rhagor o amser i holi'r llanc.

Cafodd tair merch - Alice Dasilva Aguiar, 9, Bebe King, 6, ac Elsie Dot Stancombe, 7 - eu lladd yn yr ymosodiad.

'Dyfalu ddim o gymorth i neb'

Ar eu cyfrif X nos Fawrth dywedodd Heddlu Glannau Mersi bod swyddogion a oedd newydd orffen eu diwrnod gwaith ar ddyletswydd eto a'u bod yn cael eu cynorthwyo gan heddluoedd eraill - yn eu plith Heddlu'r Gogledd.

Maen nhw'n nodi hefyd bod disgwyl i fwy o blismyn fod yn yr ardal er mwyn cysuro trigolion lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd ymosodiadau nos Fawrth rai strydoedd i ffwrdd o leoliad gwylnos

Mae'r heddlu'n credu bod cefnogwyr yr English Defence League yn rhan o'r anhrefn nos Fawrth, wnaeth ddechrau ger mosg, ychydig strydoedd i ffwrdd o leoliad gwylnos.

Cafodd briciau eu taflu at y mosg a cheir eu rhoi ar dân.

Cafodd 27 o blismyn eu cludo i'r ysbyty, medd y gwasanaeth ambiwlans, a 12 eu trin a'u rhyddhau yn y fan a'r lle.

O ganlyniad i'r anhrefn, mae gorchymyn 24 awr wedi ei gyflwyno sy'n rhoi mwy o bwerau i'r heddlu stopio ac archwilio unigolion. Bydd yn parhau mewn grym tan 19:54 nos Fercher.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Alex Goss: "Mae cryn ddyfalu wedi bod am y llanc 17 oed sydd ar hyn o bryd yn nalfa'r heddlu ac mae rhai unigolion yn defnyddio hyn i ddod â thrais ac anhrefn ar ein strydoedd.

"Ry'n ni eisoes wedi dweud bod y person sydd wedi cael ei arestio wedi'i eni yn y DU a 'dyw dyfalu ddim o gymorth i neb ar hyn o bryd."

Pynciau cysylltiedig