Cheryl Foster i ddyfarnu ffeinal Cynghrair y Pencampwyr

Cheryl FosterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cheryl Foster eisoes wedi dyfarnu tair gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr y merched y tymor hwn

  • Cyhoeddwyd

Cheryl Foster o Landudno sydd wedi'i dewis i ddyfarnu rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr rhwng Barcelona a Wolfsburg fis nesaf.

Hi fydd y person cyntaf o Gymru i ddyfarnu ffeinal cystadleuaeth y merched, fydd yn cael ei chwarae yn Eindhoven yn Yr Iseldiroedd ar 3 Mehefin.

Mae cyn-ymosodwr Lerpwl, a enillodd 63 o gapiau dros Gymru rhwng 1997 a 2011, wedi bod yn dyfarnu ers 2013 ac wedi bod ar restr elît UEFA ers 2020.

Mae Foster fel arfer yn dyfarnu yng nghynghreiriau merched Cymru a Lloegr, a hi oedd y fenyw gyntaf i ddyfarnu gêm yn y Cymru Premier - lefel uchaf gêm y dynion yng Nghymru - 'nôl yn 2018.

Y llynedd, Foster oedd y dyfarnwr cyntaf o Gymru ers 1978 i ddyfarnu yn un o'r prif bencampwriaethau rhyngwladol, a hynny yn Euro 2022 y merched.

Hi oedd yn y canol ar gyfer rownd gynderfynol y gystadleuaeth honno rhwng Ffrainc a'r Almaen, ac yn ddiweddarach eleni bydd yn teithio i ddyfarnu yng Nghwpan y Byd y merched yn Awstralia a Seland Newydd.