Ystyried uchafswm rhoddion ymgyrch wedi ffrae Gething
- Cyhoeddwyd
Bydd uchafswm rhoddion i ymgeiswyr i arwain Llafur Cymru yn cael ei ystyried gan adolygiad, yn ôl y cyn-brif weinidog Carwyn Jones.
Daw yn dilyn y ffrae ynghylch y rhoddion dadleuol i ymgyrch Vaughan Gething.
Cadarnhaodd Mr Jones, arweinydd yr adolygiad, y byddai’n edrych ar faint rhoddion i gystadlaethau'r dyfodol, ac o ble maen nhw'n dod.
Fe wnaeth Mr Gething dderbyn £200,000 gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.
Mae Mr Gething wedi amddiffyn ei onestrwydd gan wrthod galwadau gan wrthwynebwyr am ymchwiliad dan reolau’r llywodraeth.
Mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi gosod dadleuon yn y Senedd yn beirniadu'r prif weinidog.
Mae cynnig Plaid Cymru, i'w drafod ddydd Mercher, yn galw'n benodol am gael uchafswm ar roddion gwleidyddol i aelodau Senedd Cymru.
Maint rhoddion yn 'amlwg yn bwnc'
Fe wnaeth y grŵp Dauson Environmental o Gaerdydd rhoi dau gyfraniad o £100,000 yr un i ymgyrch Mr Gething.
Mae'r busnes yn cael ei redeg gan David Neal a gafodd ddedfryd o garchar wedi'i gohirio yn 2013 am dipio gwastraff yn anghyfreithlon.
Bedair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei erlyn eto am beidio â chael gwared arno.
Mae’r ymgeisydd a gollodd i Mr Gething, Jeremy Miles – sydd bellach yn ysgrifennydd yr economi yn llywodraeth Mr Gething – wedi dweud na fyddai wedi derbyn yr arian.
Yn fuan ar ôl ennill yr arweinyddiaeth, cyhoeddodd Mr Gething y byddai Llafur Cymru yn adolygu eu rheolau.
Bydd yr adolygiad yn cael ei arwain gan Carwyn Jones, a ddywedodd wrth BBC Cymru bod maint rhoddion “yn amlwg yn bwnc” i’w ystyried.
Bydd Mr Jones yn ystyried y rheolau ar gyfer y gystadleuaeth yn y dyfodol, nid rheolau’r etholiad sydd newydd orffen.
Dywedodd fod y pleidiau eraill – sydd wedi cyhuddo Llafur o beidio â gadael i rywun allanol gynnal ymchwiliad – wedi camddeall y broses.
Adolygiad “er mwyn sicrhau bod y system gallu gweithio’n well yn y pen draw” oedd hwn, meddai.
“Er enghraifft, dylai’r gystadleuaeth fod mor hir ag y mae e? Yn fy marn i mae’n hir iawn. Dwi ‘di bod trwyddo fe."
Aeth ymlaen i holi: “Pa fath o system dyle fod mewn lle er mwyn delio gyda rhoddion? Dyle fod ‘na derfyn ar faint mae pobl yn gallu rhoi?
“Mae’n rhywbeth hollol iach i unrhyw blaid wleidyddol 'neud.”
Eisiau 'sicrhau fod pethau'n gwella'
Byddai gosod uchafswm ar roddion yn anodd ac fe fyddai’n rhaid ei ystyried yn “fanwl iawn”, meddai.
“Mae ‘na feddwl agored 'da fi a 'wi moyn sicrhau bod pethau’n gwella unwaith eto.
“Dwi’n credu bod y system yn hollol agored fel mae e, ond dyw hynna ddim yn meddwl, yn yr hen ddywediad, ‘da ond nid da lle gellir gwell’.”
Ychwanegodd: “Dwi’n credu byddai Vaughan ddim wedi eisiau gweld y stori hon yn rhedeg ac fe fyddai wedi moyn dechrau ei yrfa fel prif weinidog mewn ffordd hollol wahanol.
“Ond ‘na fe – ma' hwnna’n rhywbeth sydd wedi cael ei ddelio gyda yn y Senedd. Mae e wedi rhoi ei esboniad am hwnna.
“Ond bydd hwn ddim yn rhywbeth bydd yr adolygiad hwn yn edrych arno. Ni moyn gweld beth fydd yn digwydd nawr yn y blynyddoedd i ddod.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd23 Ebrill