Vaughan Gething yn derbyn £200,000 gan gwmni troseddwr amgylcheddol

  • Cyhoeddwyd
Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Gething yn un o'r ddau ymgeisydd yn ras arweinyddiaeth Llafur Cymru

Mae ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru, Vaughan Gething, wedi derbyn £200,000 ar gyfer ei ymgyrch gan gwmni sy'n cael ei redeg gan ddyn a gafwyd yn euog ddwywaith am droseddau amgylcheddol.

Cafodd David Neal ddedfryd o garchar wedi'i gohirio yn 2013 am dipio gwastraff yn anghyfreithlon ar safle cadwraeth.

Bedair blynedd yn ddiweddarach cafodd ei erlyn eto am beidio â chael gwared arno.

Dywedodd ymgyrch Mr Gething fod pob rhodd yn cael ei ddatgan yn unol â'r rheolau.

Mae Aelod Senedd De Caerdydd a Phenarth yn sefyll yn erbyn Jeremy Miles yn y ras i gymryd lle Mark Drakeford fel prif weinidog.

Derbyniodd hefyd roddion gan ddau gwmni arall sy'n cael eu rhedeg gan Mr Neal yn ystod hydref 2018, pan redodd ddiwethaf i ddod yn arweinydd Llafur Cymru.

Mae'r holl roddion wedi'u datgan i'r Comisiwn Etholiadol, gyda chofnodion yn dangos bod gweinidog yr economi wedi derbyn dau rodd o £100,000 yr un gan Dauson Environmental Group.

Cafodd un ei roi fis diwethaf, a rhoddwyd yr ail bum niwrnod ar ôl i Mr Drakeford ymddiswyddo.

Mae Mr Gething wedi addo cyflwyno cosbau llymach i'r rhai sy'n torri rheolau amgylcheddol.

Mae Mr Neal yn gyfarwyddwr gyda rheolaeth sylweddol yn Dauson Environmental Group.

Yn 2013 cafodd ei erlyn am ddympio gwastraff yn anghyfreithlon ar safle cadwraeth ar Wastadeddau Gwent.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daethpwyd o hyd i bentyrrau mawr o wastraff heb ei reoleiddio ar hen dir fferm David Neal ar Wastadeddau Gwent

Clywodd Llys Ynadon Caerdydd ar y pryd fod hylif gwenwynig wedi gollwng i'r dŵr.

Cafodd Mr Neal ddedfryd ohiriedig o dri mis.

Cafodd ei gwmnïau Atlantic Recycling a Neal Soil Suppliers hefyd eu herlyn - gan gael dirwyon a chostau o £202,000.

Yn 2017, cafodd ddedfryd ohiriedig arall o 18 wythnos, gyda dirwyon a chostau o £230,000, ar ôl methu â chael gwared ar y gwastraff.

Mae'r safle o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Yn y ddau achos cyfaddefodd y troseddau.

Rhoddodd Atlantic Recycling a Neal Soil Suppliers gyfanswm o £38,000 i Mr Gething yn 2018.

Yn ddiweddar bu i un arall o'i gwmnïau, Resources Management UK Ltd, wynebu camau gweithredu gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar ôl cwynion am yr arogl yn Safle Tirlenwi Withyhedge yn Sir Benfro.

Roedd trigolion yn ei alw'n "fom drewdod ar steroidau".

Ffynhonnell y llun, Colin Burnett
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna gwynion wedi bod am safle Withyhedge yn Hwlffordd ers yr hydref

Mae Mr Gething hefyd wedi datgan yng nghofrestr buddiannau aelodau o'r Senedd ei fod wedi derbyn y rhoddion ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth gan Grŵp Amgylcheddol Dauson.

'Tryloywder'

Dywedodd llefarydd ar ran ymgyrch Mr Gething: "Mae Dauson Environmental Group Limited wedi cyfrannu at ymgyrch arweinyddiaeth Vaughan Gething.

"Mae'r holl roddion yn cael eu datgan i'r Senedd a'r Comisiwn Etholiadol yn unol â'r rheolau ac ymrwymiad Vaughan i dryloywder.

"Rydym yn ymwybodol o'r materion presennol sy'n ymwneud â Safle Withyhedge a, fel gydag unrhyw achosion o'r fath, byddem yn annog ymchwilio'n llawn i'r materion a'u datrys cyn gynted â phosibl, yn unol â chyfarwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru.

"Rydym wedi cysylltu â'r cwmni ac wedi cael sicrwydd ei fod yn mynd i'r afael â'r materion a'i fod ar y trywydd iawn i fodloni amserlen CNC.

"Mae maniffesto arweinyddiaeth Vaughan Gething yn addo cryfhau camau gorfodi i warchod yr amgylchedd ac yn addo cosbau llymach i'r rhai sy'n torri rheolau amgylcheddol."