Cei Connah yn trechu'r Seintiau i ennill Cwpan Cymru

Cei ConnahFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cei Connah yw enillwyr Cwpan Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae Cei Connah wedi ennill Cwpan Cymru am yr eildro yn hanes y clwb, gan drechu'r Seintiau Newydd ddydd Sul.

2-1 oedd y sgôr, gyda goliau Harry Franklin a Josh Williams yn sicrhau'r fuddugoliaeth.

Dyma oedd y tro cyntaf i Gei Connah ennill Cwpan Cymru ers 2018.

Roedd y Seintiau Newydd eisoes wedi ennill y Cymru Premier a Chwpan Nathaniel MG yn gynharach yn y tymor, ond ni lwyddon nhw i gipio trydydd tlws.

Y Seintiau Newydd oedd wedi ennill Cwpan Cymru am y tri thymor diwethaf.

Pynciau cysylltiedig