Comisiynydd y Gymraeg yn cydnabod gwaith Samariaid Cymru

Galwad ffon
Disgrifiad o’r llun,

Dros y flwyddyn ddiwethaf fe atebodd Samariaid Cymru 130,000 o alwadau am gymorth

  • Cyhoeddwyd

Mae elusen y Samariaid yn pwysleisio pwysigrwydd gallu siarad yn eich mamiaith, yn arbennig wrth i’r Nadolig nesáu.

Dros y flwyddyn ddiwethaf fe atebodd Samariaid Cymru 130,000 o alwadau am gymorth, sy'n gyfystyr ag un alwad bob pedwar munud.

Mae nifer y galwadau yn uwch adeg y Nadolig, sy'n gyfnod o bryder ac unigrwydd i lawer.

Mae'r elusen - sy'n cynnig gwasanaeth dwyieithog - newydd dderbyn y Cynnig Cymraeg gan y Comisiynydd Iaith.

Mae'r Cynnig yn cydnabod sefydliadau sydd wedi cydweithio â swyddogion y Comisiynydd i gynllunio eu darpariaeth Gymraeg.

"Yng Nghymru, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw derbyn cymorth yn eich iaith gyntaf," meddai Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol Samariaid Cymru.

"Rydym yn gweithio i gyrraedd cymaint o siaradwyr Cymraeg ag y gallwn.

"Rydym yn falch o dderbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg, ond rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i wella ein Cynnig Cymraeg i unrhyw un sydd angen cefnogaeth y Samariaid."

Ychwanegodd: "Ein prif neges i bawb ledled Cymru, yn enwedig yr adeg hon o'r flwyddyn, yw nad yw estyn allan am gymorth yn arwydd o wendid, ond yn hytrach yn arwydd o gryfder."

'Falch o godi'r ffôn'

Yn ôl yr elusen, mae llawer o resymau dros alw ond mae'r prif rai oherwydd problemau iechyd meddwl, anghydfod teuluol, unigedd ac unigrwydd, problemau perthynas a salwch corfforol.

Mae Damien yn un sy'n falch iddo godi'r ffôn.

Roedd wedi bod yn cael trafferth gydag iselder a gorbryder am 10 mlynedd, a flwyddyn yn ôl, penderfynodd na allai fynd ymlaen, ac yna fe ffoniodd y Samariaid.

Dywedodd: "Doeddwn i ddim yn gallu siarad gyda fy nghariad na fy nhad.

"Roedd y ddau yn gefnogol iawn, ond pan rydych chi yn ei chanol hi, mae'n anodd iawn meddwl yn rhesymegol."

Fe ymddangosodd rhif y Samariaid un bore ac fe feddyliodd nad oedd ganddo ddim i'w golli.

"Alla i ddim cofio cynnwys y sgwrs, y cyfan rwy'n ei wybod yw, ar ôl i mi ddod oddi ar y ffôn, nad oeddwn i'n teimlo'r un ffordd.

"Erbyn hyn, dwi'n dal i gael diwrnodau gwael o dro i dro, ond dwi mewn lle llawer gwell nag oeddwn i gan wybod nad yw'r teimladau hyn yn barhaol."

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n bwysig bod y galwr yn gallu siarad yn eu dewis iaith," yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, mae'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu gan sefydliadau fel Samariaid Cymru yn hanfodol bwysig yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.

"Ni ellir gorbwysleisio gwerth llais cyfeillgar ar ochr arall y ffôn, un sy'n barod i wrando a siarad â chi.

"Mae'n gam mawr i wneud yr alwad honno ac mae'n bwysig bryd hynny bod y galwr yn gallu siarad yn eu dewis iaith, gan sicrhau ei fod mor gyfforddus â phosib."

Mae Lynda yn Gyfarwyddwr Cangen Bangor o'r Samariaid ac yn un sydd ar ben arall y ffôn.

"Mae defnyddio fy iaith gyntaf yn hanfodol i mi yn fy mywyd bob dydd fel y mae i lawer ledled Cymru, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn cymunedau gwledig a ffermio.

"Mae siarad yn Gymraeg yn eu helpu i deimlo'n fwy cyfforddus wrth i ni siarad am yr hyn sy'n eu poeni."