Blaenoriaethau trafnidiaeth y llywodraeth 'yn anghywir'
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr blaenllaw yn dweud bod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru dros drafnidiaeth gyhoeddus yn anghywir.
Mae'r Athro Emeritws Stuart Cole yn dweud y dylai gweinidogion fod wedi gwella trenau a bysiau cyn cyflwyno'r terfyn o 20 milltir yr awr ar rai ffyrdd.
Yn dilyn y penderfyniad dadleuol i newid y terfyn cyflymder ar lawer o ffyrdd Cymru o 30 i 20mya ym mis Medi, dywed yr Athro Cole nad yw gweinidogion wedi gwneud pethau yn y drefn gywir.
Dywed Llywodraeth Cymru bod y trefniadau presennol o ran trafnidaeth gyhoeddus "yn gymhleth iawn ac yn anghyson ar draws Cymru".
"Mae'r llywodraeth wedi mynd ati yn y ffordd anghywir," meddai.
"Nid yw'r hyn maen nhw wedi'i wneud ynddo'i hun yn syniad drwg, ond dylai cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus fod wedi'u gwella cyn i unrhyw ddeddfwriaeth gwrth-fodurwyr gael ei chyflwyno."
Mae Llanelli, sef etholaeth y gweinidog trafnidiaeth, Lee Waters, yn enghraifft dda o dref lle nad yw bysiau a threnau wedi’u hintegreiddio.
Mae'r orsaf fysiau filltir i ffwrdd o'r orsaf drenau, a does dim bysiau'n cysylltu'r ddau.
Does dim bysiau o gwbl o'r orsaf reilffordd, i unman.
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2023
Mae'r Athro Cole am weld Cymru'n efelychu'r Iseldiroedd, lle mae buddsoddiad enfawr wedi bod mewn trenau a bysiau i ddenu modurwyr allan o'u ceir.
Mae gan y wlad gynllun cardiau crwydrol hefyd, sydd wedi bod ar gael ers 2007.
Mae'n caniatáu i bobl newid o fysiau i drenau i dramiau, i gyd ar un tocyn.
Dywedodd: "Mae gennym sail ar ei gyfer gyda’r pas bws i bobl dros 60 oed.
"Gellir ymestyn hynny nid fel rhywbeth sy' ond i bobl oedrannus ond i'r gymuned gyfan… fel y cynllun sy' gan Transport for London.
"Yna, mae angen gwneud yn siŵr bod yr amserlenni'n integreiddio fel y gallwch chi ddod ar y bws i’r orsaf reilffordd.”
Hoffai'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd weld cerdyn “rover” cenedlaethol.
Dywed llefarydd y blaid ar drafnidiaeth, Natasha Asghar AS, ei bod yn ffafrio pris tocynnau yn cael eu capio fel ym Manceinion - £2 i oedolyn fesul taith a £1 i blentyn.
Dywedodd: "Byddai'n wych - byddai'n hollol wych.
"Dyw e ddim yn rhywbeth newydd dwi'n sôn amdano.
"Mae llefydd eraill yn ei wneud yn barod, mae'n gweithio, felly pam ar y ddaear dy’n ni ddim yn ei weithredu fan hyn?”
Ond mae rhai gwasanaethau bysiau yng Nghymru dan fygythiad.
Roedd cynllun Bwcabus wedi bod yn rhedeg yng ngorllewin Cymru ers 14 mlynedd, ond daeth i ben ym mis Hydref am nad oedd arian i'w gefnogi mwyach.
Dywed llefarydd Plaid Cymru ar drafnidiaeth, Delyth Jewell AS, y gallai ddod yn ôl pe bai pob polisi trafnidiaeth yn cael ei ddatganoli, a bod Cymru'n cael cam ar hyn o bryd.
"Pe bai'r system ariannu sydd gennym ni yng Nghymru yn deg, a bo' ni’n derbyn y biliynau ddylen ni gael o HS2, yna fe fydden ni’n gallu buddsoddi ym mhob un o'r gwahanol wasanaethau hyn.
"Mae Cymru'n cael ei chadw'n dlawd mewn cymaint o ffyrdd, oherwydd penderfyniadau San Steffan."
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Wrth ddatblygu'r polisi 20mya, fe wnaethon ni gysylltu ag ystod o gynrychiolwyr trafnidiaeth gyhoeddus.
"Roedd y dystiolaeth a adolygwyd gennym yn dangos y gallai'r effaith ar amseroedd teithio fod yn fach iawn.
"Ers hynny rydym wedi derbyn adroddiadau gan gynrychiolwyr y diwydiant bysiau am rai effeithiau niweidiol ar wasanaethau, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda nhw ar fyrder i archwilio'r data y maent yn ei gasglu ac i archwilio atebion."
'Setliad ariannu heriol'
Ar fysiau, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi edrych ar ystod o opsiynau i wneud teithio ar fws yn haws ac yn fwy hygyrch i bawb yn y gymuned drwy symleiddio'r system docynnau.
"Mae'r trefniadau presennol yn gymhleth iawn ac yn anghyson ar draws Cymru.
"Rydym wedi wynebu setliad ariannu heriol gan Lywodraeth y DU ac rydym wedi gorfod blaenoriaethu ein cyllid bysiau i sicrhau bod gwasanaethau bysiau hanfodol yn cael eu cynnal ar gyfer cymunedau fel rhan o'n Cronfa Bontio Bysiau."
Bydd mwy ar y stori yma ar BBC Politics Wales ar BBC One Wales ddydd Sul am 10:00.