Dau yn yr ysbyty a dyn wedi'i arestio ar ôl digwyddiad ym Mhwllheli

Ffordd MelaFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau clwyfo yn dilyn digwyddiad ym Mhwllheli fore Llun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad y tu allan i eiddo ar Ffordd Mela am tua 10:30 yn dilyn adroddiadau o aflonyddwch yn ymwneud â thri dyn.

Fe gafodd dau ddyn eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau sydd ddim yn debygol o beryglu bywyd, tra bod dyn arall wedi ei arestio yn y fan a'r lle.

Dywedodd yr heddlu fod swyddogion yn parhau ar y safle wrth iddyn nhw ymchwilio i'r digwyddiad, ond eu bod yn hyderus nad oes unrhyw berygl pellach i'r cyhoedd.

Mae 'na alw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i ymchwiliad yr heddlu i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig