Dyn, 35, wedi ei gyhuddo o ddynladdiad wedi ymosodiad honedig

Llys Ynadon Merthyr
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd Luke Jones, 35 yn Llys Ynadon Merthyr fore Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 35 oed wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad yn dilyn ymosodiad honedig yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad yn Moorland Crescent ym mhentref Beddau toc cyn 21:25 ar 9 Gorffennaf yn dilyn adroddiadau fod dyn wedi dioddef ataliad ar y galon.

Dywedodd yr heddlu ei bod wedi dod i'r amlwg yn ddiweddarach fod y dyn 46 wedi cael ei ymosod arno, a bod hynny wedi achosi iddo syrthio i'r llawr.

Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty, ond bu farw ar 20 Gorffennaf.

Mae Luke Jones, o Donteg ger Pontypridd, wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad ac fe ymddangosodd yn Llys Ynadon Merthyr fore Mawrth.

Bydd yn cael ei gadw'n y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar 19 Awst.

Pynciau cysylltiedig