Cyhuddo tri o dwyll £5 miliwn mewn coleg y chweched yng Nghaerdydd

Mae myfyrwyr TGAU yn talu mwy na £30,000 y flwyddyn mewn ffioedd yng Ngholeg Chweched Dosbarth Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae tri pherson wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â thwyll o £5 miliwn mewn coleg chweched dosbarth blaenllaw yng Nghymru.
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dau ddyn a menyw mewn cysylltiad ag achosion o anghysondebau ariannol yng Ngholeg Chweched Dosbarth Caerdydd rhwng 2012 a 2016.
Mae Yasmin Anjum Sarwar, 43, o Gyncoed, Caerdydd, a Nadeem Sarwar, 48, o Bentwyn, Caerdydd, wedi'u cyhuddo o sawl trosedd o ladrad a thwyll.
Mae Ragu Sivapalan, 39, o Benylan, Caerdydd wedi'i gyhuddo o gyfrifo ffug rhwng 2013 a 2016.
Mae disgwyl i'r tri ymddangos gerbron ynadon Caerdydd ddydd Mawrth, 8 Ebrill.
Yn 2016 roedd yna raglen ddogfen gan y BBC ar y coleg, sydd ar Ffordd Casnewydd, sef Britain's Brainiest School ac mae'r coleg yn aml yn cofnodi rhai o'r canlyniadau Safon Uwch uchaf yn y wlad.
Ers y twyll honedig, mae'r coleg yn eiddo i berchnogion newydd. Enw'r elusen bresennol sy'n ei oruchwylio yw Cardiff Educational Endowment Trust.