Ambiwlans awyr yn cludo dringwr o Sir Benfro i ysbyty yng Nghaerdydd

Fe gwympodd dringwr yn Saddle Head tua 5:20pm dydd Iau
- Cyhoeddwyd
Mae dringwr creigiau wedi cael ei gludo mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty ar ôl cwympo oddi ar glogwyn ar arfordir Sir Benfro.
Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau fod y dringwr gwrywaidd wedi cwympo yn Saddle Head, tua milltir o bentref Bosherston, tua 5:20pm ddydd Iau.
Cafodd ei godi gan hofrennydd i ben y clogwyn er mwyn cael ei drosglwyddo i ambiwlans awyr cyn hedfan i'r ysbyty yng Nghaerdydd.
Dydy difrifoldeb ei anafiadau ddim yn glir ar hyn o bryd.
Clogwyni tua 35m uwchben lefel y môr
Cafodd timau achub Gwylwyr y Glannau St Govans a Dinbych-y-pysgod eu hanfon i'r digwyddiad, yn ogystal â chychod achub yr RNLI o Ddinbych-y-pysgod ac Angle.
Cafodd hofrennydd Gwylwyr y Glannau ei alw hefyd ynghyd â dau ambiwlans awyr Cymru.
Cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wybod am y digwyddiad yn ogystal.
Yn ôl Cyngor Mynydda Prydain, De Sir Benfro yw un o'r ardaloedd dringo clogwyni môr gorau ym Mhrydain.
Fe ddisgrifion nhw Saddle Head fel man sy'n cynnig creigiau da gyda lefel gweddol isel o anhawster ar y cyfan.
Mae'r clogwyni calchfaen yn codi i tua 35m (114 o droedfeddi) uwchben lefel y môr.
Mae'n agos at ardal Castellmartin y Weinyddiaeth Amddiffyn ac felly does dim modd ei gyrraedd bob amser oherwydd ymarferion tanio.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.