Arestio pedwar o bobl wedi tân mewn tŷ fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl - tri dyn 18, 19 a 23 oed a menyw 19 oed - wedi eu harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am 01:25 fore Llun yn dilyn adroddiadau o dân mewn tŷ ar Stryd Protheroe, Glynrhedynog.
Bu'n rhaid i bobl adael eu cartrefi ond y gred yw nad oes unrhyw un wedi eu hanafu.
Mae ymholiadau'n awgrymu bod y tân wedi ei gychwyn yn fwriadol.
Mae'r pedwar sydd wedi cael eu harestio yn parhau yn y ddalfa.
Dywedodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ei fod yn ddiolchgar "na chafodd neb ei anafu'n ddifrifol yn y digwyddiad" sydd wedi cael effaith fawr ar y gymuned, meddai Andrew Morgan.
Diolchodd i'r gwasanaethau brys a dywedodd bod swyddogion y cyngor yn rhoi cymorth i'r rhai sydd wedi eu heffeithio ac i'r rhai sy'n lletya pobl sydd methu â dychwelyd adref.
"Byddwn yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â'r heddlu drwy gydol eu hymchwiliad", meddai.