'Gwyliau yn tueddu i gael mwy o berfformwyr gwrywaidd'

Gŵyl Green ManFfynhonnell y llun, Nici Eberl
Disgrifiad o’r llun,

Mae artistiaid yn dweud bod llawer o waith i’w wneud i gau’r bwlch rhwng dynion a menywod yn y diwydiant cerddoriaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae artistiaid sy’n perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd dros y penwythnos yn dweud bod llawer o waith i’w wneud i gau’r bwlch rhwng dynion a menywod yn y diwydiant cerddoriaeth.

Mae ymchwil yn awgrymu bod bron i deirgwaith yn fwy o fandiau gwrywaidd ac artistiaid unigol na merched yn chwarae mewn gwyliau cerddoriaeth ar draws Prydain eleni.

Edrychodd cwmni cerddoriaeth A2D2 ar 20 o wyliau cerddoriaeth yn y DU eleni, ac yn gyffredinol, am bob tri band gwrywaidd, dim ond un band benywaidd neu artist unigol oedd yn bresennol.

Dywed trefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd eu bod yn casglu data yn wahanol ac mai merched neu rhai o rywedd anneuaidd yw aelodau bron i hanner y bandiau.

Ffynhonnell y llun, Kirsty McClachlan
Disgrifiad o’r llun,

HMS Morris yn perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 2024

Mae HMS Morris, band Cymraeg sy’n perfformio eleni, yn cael ei arwain gan Heledd Morris.

Mae hi’n nodi bod y bwlch rhwng y rhyweddau wedi gwella ar deithiau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond bod gwaith i’w wneud o hyd.

Dywedodd Heledd: “Wrth gwrs, mae’n rhaid i’r bobl sy’n trefnu gwyliau geisio eu gorau i greu 'line-up' cyfartal. Os na fyddwch chi’n llwyddo i wneud hynny, mae’n 'poor form' yn fy marn i, oherwydd gallwch chi wneud hynny.

"Mae 'na gymaint o fenywod a bandiau talentog.”

Pan oedd hi’n tyfu fyny dywed nad oedd hi'n gweld menywod yn perfformio’r math o gerddoriaeth oedd yn ei diddori hi.

“Fi’n credu fel person ifanc benywaidd yn y diwydiant o'n i ddim yn gweld pobl oedd yn 'neud y fath o gerddoriaeth o'n i isho 'neud, a hefyd fi ddim yn credu oedd yr addysg yna," meddai.

"Nawr ry'n ni’n gweld bandiau benywaidd yn mynd i ysgolion Cymru ac yn dangos be' maen nhw gallu neud i bobl ifanc ac wedyn maen nhw’n sylweddoli, 'o, 'dyn ni’n gallu 'neud hwnna hefyd'.

"So fi’n gobeithio o nawr ymlaen mae petha jyst yn mynd i wella a gwella.”

'Rhaid creu cymuned'

Mae artist arall sy’n perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd eleni, Gillie Rowland, yn cytuno bod angen cynnig cymorth i fenywod i fod â gwell cynrychiolaeth yn y diwydiant.

Mae Gillie wedi graddio mewn cerddoriaeth boblogaidd ym Mhrifysgol Goldsmiths yn Llundain

“Mae’n rhaid i ni greu mwy o gymuned a chefnogi merched ifanc i isho neud pethau fel hyn achos does dim point rili gweud, 'mae’n rhaid i ni roi menyw ar line up'," meddai.

"Mae’n wych rhoi ystyriaeth i’r hyn sy’n mynd i’r line-up, ond pan oeddwn i’n astudio, roedd yna ddwy ferch yn y dosbarth cerddoriaeth dechnoleg a 10 bachgen, felly mae angen newid ac addasu’r ffordd o feddwl amdanom ni ac adeiladu o’r gwaelod.”

Yn ôl y trefnwyr, Gŵyl y Dyn Gwyrdd oedd yr ŵyl gyntaf yn y DU i gyflawni cyfartaledd 50/50 rhwng merched a dynion.

Er bod y nifer o fenywod sy'n perfformio eleni wedi gostwng ychydig, mae sicrhau cynrychiolaeth deg bob amser yn flaenoriaeth.

Ffynhonnell y llun, Nici Eberl
Disgrifiad o’r llun,

Gillie Rowland

Mae Dionne Bennett yn gerddor ac yn gadeirydd Ladies of Rage - cymdeithas cerddorion o Gaerdydd sy’n hyrwyddo artistiaid benywaidd ac anneuaidd.

Mae hi'n dweud fod y nifer isel o artistiaid benywaidd sy’n cael eu dewis i chwarae mewn gwyliau mawr yn “aruthrol o ddigalon ac yn arwydd o ragfarnau parhaus yn y diwydiant".

“Mae’n siomedig i weld pa mor araf yw’r cynnydd mewn mannau mainstream fel gwyliau, ond mae hefyd yn ein hatgoffa i barhau i ysgogi newid," meddai.

"Rydym yn gweithio'n galed i gael gwared ar y rhwystrau yma a chreu mwy o gyfleoedd i fenywod a chymunedau ymylol i gael eu gweld, eu clywed, a'u dathlu,” meddai.

Ffynhonnell y llun, Marieke Macklon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 50% o'r artistiaid fu'n chwarae yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd y llynedd yn fenywaidd neu'n anneuaidd, yn ôl y trefnwyr

Dywedodd Fiona Stewart, perchennog a rheolwr Gŵyl y Dyn Gwyrdd: “Mae’r heriau sy’n ein hwynebu i sicrhau cynrychiolaeth deg i bawb yn fater cymdeithasol, ac mae hynny’n rhywbeth rydym bob amser yn ceisio ei ddatrys.

"Green Man oedd yr ŵyl gyntaf yn y DU i sichrau rhaniad 50/50 rhwng y rhyweddau.

"Y llynedd, roedd mwy na 50% o’r line-up yn cynnwys artistiaid benywaidd a non-binary - eleni, mae rhain yn cyfrif am 46% o’r line-up.

"Mae Green Man yn ddigwyddiad cynhwysol ac mae hynny'n flaenoriaeth i ni."

Pynciau cysylltiedig