Grŵp syrffio i bobl canol oed yn 'newid bywydau'
Yn ôl Cenydd Thomas, mae ymuno â'r grŵp wedi helpu iddo ddelio gyda heriau yn ei fywyd personol
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp syrffio i bobl canol oed yn ardal Abertawe wedi helpu i newid bywydau pobl, yn ôl rhai o'r aelodau.
Cafodd y grŵp ei sefydlu y llynedd, ac erbyn hyn mae'r dosbarthiadau, sy'n cael eu cynnal pob ddydd Sul, yn llawn.
Yn ôl Cenydd Thomas, 47 oed o Abertawe, mae ymuno â'r grŵp wedi helpu iddo ddelio gyda gwahanol heriau yn ei fywyd personol.
"Mae bod yn rhan o'r grŵp wedi fy helpu i feddwl am fywyd mewn ffordd mwy positif, ac mae'n helpu fi ddelio gyda sialensiau yn fy mywyd o ddydd i ddydd", meddai.

Mae Cenydd yn dweud bod syrffio yn cynnig heriau corfforol a meddyliol
Pan adawodd Cenydd Thomas y fyddin, roedd eisiau bod yn rhan o rywbeth oedd yn cynnig heriau corfforol a meddyliol iddo.
Fe ddaeth ar draws grŵp 'Ocean Therapy' ac fe benderfynodd y byddai'n ymuno er mwyn dysgu syrffio.
"Un peth nes i ddysgu pan nes i adael y fyddin oedd ei bod hi'n bwysig cadw routine, a fi'n credu bod ymuno gyda rhywbeth fel hyn wedi fy helpu i deimlo'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol", meddai.
Yn ôl Cenydd, mae mentro y tu allan ac ymwneud â natur trwy gydol y flwyddyn yn bwysig iawn i'w iechyd meddwl.
"Fi'n credu fod bod y tu allan - yn enwedig yn y Gaeaf pryd mae lot o gyfleoedd i aros mewn a bod yn y tŷ a theimlo bach yn isel - yn dda i'ch hunan hyder ac yn helpu creu iechyd meddwl cryf."

Yn ôl Leri Rowenna Davies, mae syrffio yn ei helpu i deimlo fel hi ei hun
Yn ôl Leri Rowenna Davies, 45 oed o Borthcawl, mae syrffio yn helpu hi deimlo fel ei hun wrth geisio delio â gwahanol gyfrifoldebau bywyd.
"Fi'n fam i blant ifanc, felly mae syrffio yn gadael i fi deimlo fel fi, nid 'fi y fam' neu 'fi y wraig', ond fi fy hun", meddai Leri.
Ar ôl iddi golli ei swydd yn sgil Brexit, mae Leri'n dweud ei bod wedi wynebu sawl her dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae syrffio wedi bod fel therapi iddi.
"Fi di bod trwyddo eithaf lot dros y pum mlynedd diwethaf," meddai.
"Nes i golli fy ngyrfa i, a ges i gyfres o miscarriages cyn i fi gael fy ail blentyn, ac wrth gwrs wnaeth y pandemig digwydd so nes i orfod treulio lot o amser yn y tŷ.
"Felly wnaeth fy iechyd meddwl ddirywio, ond y peth wnaeth helpu fi oedd syrffio.
"Pob tro o'n i'n dal y don nesaf o'n i just yn canolbwyntio ar hynny a dim byd arall."

"Mae syrffio yn gadael i fi deimlo fel fi, nid 'fi y fam' neu 'fi y wraig', ond fi fy hun", meddai Leri
Ymunodd Carol Maddock, 61 o Uplands, â'r dosbarthiadau y llynedd.
Dywed Carol fod y dosbarthiadau'n bwysig i helpu mynd i'r afael â stereoteipiau sydd yn gallu bod yn "niweidiol".
'Unrhyw beth yn bosib'
"Yn gymdeithasol, rwy'n meddwl bod pobl yn tueddu i feddwl pan fydd pobl yn cyrraedd oedran penodol mai dim ond rhai pethau y dylent eu gwneud.
"Rwy'n meddwl y gall pobl hŷn eu hunain ystyried y stereoteipiau hynny a theimlo mai dyna'r cyfan y gallwn ei wneud ac rydych yn dod yn gynnyrch o beth mae cymdeithas yn ei feddwl ohonoch chi.
"Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni'n eu herio drwy'r amser a gweld bod unrhyw beth yn bosib."

Phil Owen wnaeth sefydlu grŵp 'Ocean Therapy'
Sefydlodd Phil Owen, 57 o Abertawe, y grŵp 'Ocean Therapy' pan oedd yn cael trafferth gyda'i iechyd meddwl.
Dywedodd fod syrffio wedi ei helpu yn ystod cyfnod o absenoldeb o'r gwaith gydag iselder, a'i fod eisiau rhannu'r buddion gydag eraill oedd dros 50 oed.
"Rydych chi hollol yn y zone yn canolbwyntio pan y' chi'n syrffio, ac mae ymchwil yn dangos bod gwneud hynny, wrth ddysgu sgiliau newydd, yn hynod fuddiol i iechyd meddwl pobl", meddai Phil.
"Rwy'n meddwl bod y ffaith fy mod i dros 50 oed yn helpu pobl newydd i deimlo'n llai brawychus, oherwydd pe bawn i yn fy ugeiniau byddai'n fwy brawychus rhoi cynnig ar rywbeth fel hyn."