Corff dyn wedi ei ddarganfod yng Nghaerdydd

Cafodd y corff ei ddarganfod gan aelod o'r cyhoedd am tua 10:30 fore Sul
- Cyhoeddwyd
Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod mewn isdyfiant ger ffordd brysur yng Nghaerdydd.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod y corff wedi ei ganfod am 10:30 fore Sul gan aelod o'r cyhoedd ger ble mae lôn Lecwydd yn croesi dan yr A4232.
Roedd y farwolaeth yn cael ei thrin yn wreiddiol fel un anesboniadwy, ond fe gadarnhaodd y llu brynhawn Llun nad oedden nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.
Mae'r corff wedi ei adnabod ac mae teulu'r dyn wedi cael gwybod.
Dywedodd Heddlu'r De nad yw'r farwolaeth yn gysylltiedig ag unrhyw ymchwiliad cyfredol i bobl sydd ar goll, ac mae'r dystiolaeth wedi cael ei rannu gyda'r Crwner.