Ateb y Galw: Ignacio Lopez

Ignacio LopezFfynhonnell y llun, Michelle Huggleston Photography
  • Cyhoeddwyd

Yn Ateb y Galw yr wythnos yma mae'r digrifwr Ignacio Lopez, sydd o dras Cymreig a Sbaenaidd. Wedi ei fagu ar ynys Mallorca, mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Mae wedi bod wrthi yn y sin gomedi yng Nghymru a Phrydain ers blynyddoedd, ac yn wyneb cyfarwydd ar raglenni fel Live at the Apollo a Have I Got News For You.

Yn 2024, cymerodd ran yn y gyfres S4C Iaith ar Daith, lle roedd ei gyd-gomedïwr, Tudur Owen, yn ceisio'i helpu i ddysgu Cymraeg.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Gorwedd ar y llawr yn fflat fy rhieni yn Pollença, yn chwarae gyda thegan robot oedd yn cerdded, ac roedd ei frest yn agor a saethu arfau. Mae'n rhyfedd mod i wedi mynd mewn i gomedi ac ddim cynhyrchu peiriannau lladd o'r dyfodol.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Unrhyw le ar hyd arfordir De Cymru rili; sydd yn eithaf arbennig yn ystod y tridiau o haul rydyn ni'n eu cael yn yr haf yma yng Nghymru.

Ignacio LopezFfynhonnell y llun, Michelle Huggleston Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ignacio wrth ei fodd yn treulio ein hafau byr ar lan y môr

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Cyfoethog (yn) fuan, gobeithio.

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Fy Anti Pat yn llithro ar y gwair tra'n chwarae rownders yng ngardd fy mam-gu pan o'n i'n blentyn. O'dd e'n pure slapstick comedy gold! Os 'se ni wedi gallu fforddio camcorder bryd hynny, bydden ni bendant wedi ennill y £500 'na ar You've Been Framed.

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Gwerthu mas y Gwyn Hall yng Nghastell-nedd ar fy nhaith ddiwethaf. Roedd fy nheulu i gyd wedi dod, a fy chwaer wedi dod draw o'r Almaen, ac es i â phawb i The Duke wedyn - tafarn a feniw cerddoriaeth unigryw iawn.

Neuadd GwynFfynhonnell y llun, Ignacio Lopez
Disgrifiad o’r llun,

Noson fythgofiadwy i Ignacio, â Neuadd Gwyn yn Nghastell-nedd dan ei sang

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

O'dd 'na fenyw mewn cadair olwyn tu fas i siop yng Nghastell-nedd gyda bwced elusennol. O'n i'n meddwl mod i'n rhoi i achos da wrth ollwng 'chydig o arian mewn, ond troi mas mai nid bwced elusennol oedd e, roedd hi newydd brynu pot blodau. 'Nes i fynd am brawf llygaid yn syth.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Dwi'n crio yn gwylio ffilmiau o hyd - mwyaf diweddar, y bawd lan gan Arnie ar ddiwedd Terminator 2; mae'n fy nghael i bob tro.

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Dwi'n clicio fy ngwddw a garddyrnau lot. Dwi'n gwybod ei fod e'n ddrwg. Dwi'n swnio fel cymysgydd sment ar y fritz.

Ignacio LopezFfynhonnell y llun, Michelle Huggleston Photography

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Bob 'chydig o flynyddoedd, mi wna i ddarllen Count of Monte Cristo. Mae'n hwyl 'pulpy' ond mae'r plot mor dda, ac mae'n paentio darlun annymunol o ddial. Yn anffodus, does yna neb yn ennill. Mae'n fy helpu i gael gwared ar grudges.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Fy ffrind Ed. Achos arna fe ddiod i mi.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae pawb yn Sbaen yn cael dau gyfenw pan maen nhw'n cael eu geni - un eu tad ac un eu mam. Felly fy nghyfenw llawn yw 'Lopez McGarry'. Dwi'n meddwl mai fi yw'r unig berson yn y byd gyda'r cyfuniad yna.

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Dwi'n caru'r llun yma ohona i gyda fy mam a fy mhartner, Michelle, yn dathlu pen-blwydd fy mam yn ffair Coney Beach ym Mhorthcawl, lle'r oedd fy mam-gu wedi ei magu (ar fferm, nid yn y ffair).

Ignacio gyda'i fam a'i bartnerFfynhonnell y llun, Ignacio Lopez
Disgrifiad o’r llun,

Dathlu penblwydd ei fam ym Mhorthcawl

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Cysgu mewn, mae'n siŵr.

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Byddwn i'n arweinydd byd, a gweld faint o bolisïau gwael allen i gael gwared arnyn nhw mewn 24 awr. Bydde fe fel fersiwn wleidyddol o Supermarket Sweep.

Pynciau cysylltiedig