Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar yr A48
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar yr A48 yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r digwyddiad ar yr A48 rhwng Cross Hands a Phont Abraham am 11:55 fore Mawrth.
Bu farw gyrrwr un cerbyd yn y fan a’r lle.
Mae teulu’r dyn wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Cafodd menyw oedd yn gyrru cerbyd arall ei chludo i’r ysbyty lle mae hi’n parhau mewn cyflwr sefydlog.
Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw.