Dedfrydu 12 am werthu cocên a chanabis yn Aberystwyth

Gang AberystwythFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod y gang wedi sefydlu busnesau - gan gynnwys lle golchi ceir a siop barbwr - er mwyn cuddio y troseddau

  • Cyhoeddwyd

Mae deuddeg aelod o grŵp troseddol a ddaeth â chyffuriau gwerth mwy na £400,000 i Aberystwyth wedi cael eu dedfrydu.

Clywodd Llys y Goron Abertawe fod y gang wedi sefydlu busnesau - gan gynnwys lle golchi ceir a siop barbwr - er mwyn cuddio y troseddau.

Roedd yr ymgyrch yn cael ei rhedeg fel busnes llinellau cyffuriau "county lines" gydag arweinwyr y gang yn anfon recriwtiaid o bob rhan o'r DU i werthu cocên a chanabis yn Aberystwyth.

Credir bod gyrrwr tacsi a gafodd ei ddefnyddio fel negesydd wedi mynd ag oddeutu tair kilo o gocên i'r dre glan môr yn ystod nifer o deithiau.

Fe gafodd aelodau'r gang eu harestio gan Heddlu Dyfed-Powys fel rhan o ymchwiliad Ymgyrch Burleigh.

Dywedodd y Barnwr Geraint Walters ei bod yn "sefyllfa hynod o drist" fod un o arweinwyr y grŵp wedi cael caniatâd i aros yn y DU wedi iddo ffoi o Irac ond ei fod wedi ad-dalu’r DU drwy fod yn rhan o drosedd ddifrifol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Clywodd y llys bod y gang wedi defnyddio pedwar ffôn gwahanol i gysylltu â chwsmeriaid a'u bod wedi defnyddio sawl eiddo a gwesty bach yn y dref fel canolfannau gweithredu.

Roedden nhw hefyd yn defnyddio pobl y gellid ymddiried ynddyn nhw i gludo'r cyffuriau ac arian i ac o ganolbarth Cymru.

Ar ran yr erlyniad dywedodd Ian Wright fod y troseddu wedi para am dros flwyddyn ac wedi datblygu wrth i aelodau'r gang osgoi cael eu dal.

Ar wahanol adegau buont yn defnyddio tri eiddo gwahanol yn Aberystwyth - ar Ffordd y Môr, Heol Alexandra, a Pharc Craig Glais - fel canolfannau gweithredol .

Roedden nhw hefyd yn gweithredu o dai a byddent yn defnyddio ystafelloedd mewn gwestai yn y dref.

Clywodd y llys bod y gang wedi bod yn defnyddio pobl o Aberystwyth ar gyfer eu dibenion - yn eu plith dwy ddynes gydag un ohonyn nhw wedi cael cynnig £200 y tro am gludo cyffuriau o Birmingham i Aberystwyth.

Cafodd un o arweinwyr y gang ddedfryd o 12 mlynedd o dan glo gyda'r gweddill yn cael dedfrydau o gyfnodau rhwng dwy flynedd a hanner a phedair blynedd yn y carchar.

Pynciau cysylltiedig