Tân mawr wedi dinistrio stordai cwmni Leekes dros nos

Cafodd tua 60 o swyddogion eu galw i'r digwyddiad yn oriau man fore Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae dau o stordai cwmni Leekes yn Rhondda Cynon Taf wedi cael eu dinistrio mewn tân mawr dros nos.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r digwyddiad yn Nhonysguboriau am 02:31 fore Gwener yn dilyn adroddiadau o dân ger un o siopau'r cwmni gwerthu nwyddau i'r cartref.
Roedd nifer o griwiau tân, a thua 60 o swyddogion yn rhan o'r ymateb i'r digwyddiad, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad, ac roedd y fflamau wedi eu diffodd erbyn tua 05:00.

Fe wnaeth y fflamau effeithio ar ardal tua 150m x 120m mewn maint, meddai'r gwasanaeth tân
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Leekes nad oes unrhyw ddifrod i'r brif siop, a'u bod yn gobeithio agor i gwsmeriaid yn hwyrach ddydd Gwener.
"Dydi'r siop ddim wedi cael ei effeithio, ond rydyn ni wedi colli dau stordy y tu ôl i'r prif adeilad, maen nhw wedi eu dinistrio yn llwyr.
Ychwanegodd fod diffoddwyr wedi gwneud "gwaith anhygoel i sicrhau nad oedd y fflamau wedi lledaenu ymhellach".
Roedd ffordd gyfagos ar gau am gyfnod oherwydd y digwyddiad, ond mae bellach wedi ailagor.
Mae Heddlu'r De a'r gwasanaeth tân bellach yn ymchwilio i achos y digwyddiad.