Trywanu Swydd Efrog: Dioddefwr â chysylltiad â de Cymru

Lleoliad y digwyddiad
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ganol tref Huddersfield yn dilyn adroddiadau o drywanu ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 20 oed wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i ddyn 16 oed gael ei drywanu yn ei wddf.

Bu farw Ahmad Madouh Al Ibrahim yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad arno yn Huddersfield ddydd Iau.

Mae Heddlu Swydd Gorllewin Efrog yn dweud fod Ahmad wedi symud i Huddersfield o dde Cymru yn ddiweddar.

Fe wnaeth Alfie Franco, 20 o Kirkburton, ymddangos yn Llys Ynadon Leeds wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ac o fod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Yn dilyn y gwrandawiad byr cafodd Alfie Franco ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Leeds ddydd Mawrth.

Wrth siarad yn y llys, honnodd yr erlynydd, Bashir Ahmed, fod Mr Franco wedi trywanu Ahmad ar ôl iddyn nhw ddod yn rhan o ffrae ar lafar.

Ddydd Gwener dywedodd y llys nad yw'r digwyddiad "yn gysylltiedig â gang neu unrhyw anghydfod ehangach rhwng grwpiau" gan rybuddio'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus o wybodaeth ffug sydd ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae dyn 22 oed a menyw 20 oed wedi eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr ac wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Pynciau cysylltiedig