'Effaith sylweddol ar Geredigion gyda mwy o wariant amddiffyn'

Mae cwmni Tekever wedi bod yn darparu dronau i fyddin Wcráin o'u safle yn Aberporth
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr cwmni awyrofod o Bortiwgal – sydd â safle yng Ngheredigion – yn disgwyl i'r cynnydd mewn gwariant ar amddiffyn gael "effaith sylweddol" ar y safle yng Nghymru.
Fe gadarnhaodd y Canghellor Rachel Reeves yn natganiad y Gwanwyn y byddai gwariant amddiffyn yn cynyddu i 2.5% CMC (GDP) erbyn 2027, a 3% erbyn 2029.
Dyma'r cynnydd mwyaf mewn gwariant amddiffyn ym Mhrydain ers y Rhyfel Oer.
Yn ôl Ricardo Mendes o gwmni Tekever, mae'n bwriadu ehangu'r gwaith ym Mharc Aberporth, a bydd "nifer o gyhoeddiadau" yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Mae tua 50 o bobl yn cael eu cyflogi ar y safle ger Maes Awyr Gorllewin Cymru, ac mae Tekever yn bwriadu cynyddu maint y gweithlu.
Ond mae eraill yn poeni am y cynlluniau i ehangu gwaith y lluoedd arfog yng Nghymru.

Yn ôl Ricardo Mendes, mae cwmni Tekever yn bwriadu ehangu eu gwaith ym Mharc Aberporth
Yn ddiweddar, mae'r cwmni wedi bod yn darparu dronau i fyddin Wcráin eu defnyddio yn eu brwydr yn erbyn lluoedd Rwsia.
Mae'r safle yng Ngheredigion "yn rhan annatod" o gynlluniau Tekever, yn ôl Mr Mendes, nid yn unig o ran eu gwaith ym Mhrydain, ond fel rhan o'u gwaith yn rhyngwladol.
"Fe fydd y cynnydd mewn gwariant amddiffyn yn cael effaith bositif ar hynny," meddai.
Mae Bae Ceredigion yn ardal ddynodedig i brofi taflegrau a dronau.

Roedd y Cynghorydd Clive Davies yn arfer bod yn brentis ifanc i gwmni amddiffyn yn Aberporth
Roedd y Cynghorydd Clive Davies yn brentis ifanc yn QinetiQ – cwmni sy'n rhan o'r gwaith profi hwnnw.
Mae'n dweud fod 700 o bobl yn arfer gweithio ym maes amddiffyn yn AberPorth, ac mae'n croesawu'r awgrym y bydd mwy o fuddsoddiad.
"Roedd 'na brentisiaethau, tua 70 o lefydd, a rheina'n dod o golegau ac ysgolion lleol," meddai.
"Gobeithio, gyda'r buddsoddiad ychwanegol 'ma, byddwch chi'n cael y swyddi 'na.
"A hefyd, mae 'na gwmniau preifat yn dod i'r ardal, a byddan nhw hefyd yn gobeithio buddsoddi."

Mae Robat Idris o Gymdeithas y Cymod yn gwrthwynebu'r cynlluniau i ehangu'r safle
Mae gan Gymru draddodiad hir o heddychiaeth, ac mae nifer yn poeni am y cynlluniau i ehangu gwaith y lluoedd arfog yma.
Mae Cymdeithas y Cymod ymhlith y cyrff sydd wedi condemnio'r cynlluniau i wario mwy ar amddiffyn.
Yn ôl eu cadeirydd, Robat Idris, maen nhw'n gwrthwynebu'r cynllun ac yn credu mewn "trafod a chymodi, yn hytrach na pharatoi ar gyfer rhyfel".
"Mae hwn nid yn unig ynglŷn â gwariant, ond ynglŷn â pharatoi meddylfryd pobl at fynd i ryfel, sy'n hollol groes i bob egwyddor waraidd," meddai.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gobeithio y bydd y cynnydd mewn gwariant ar amddiffyn yn cadw'r heddwch ar adeg pan mae pryder gwirioneddol am wrthdaro unwaith eto ar draws tir mawr Ewrop.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
- Cyhoeddwyd19 Medi 2024