Richard Burton: 'Y boi â'r llais Cymraeg'

Harry Lawtey yn chwarae rhan Richard BurtonFfynhonnell y llun, Icon Film Distribution
Disgrifiad o’r llun,

Harry Lawtey yn chwarae rhan Richard Burton

  • Cyhoeddwyd

Mae ffilm Mr Burton sy'n croniclo hanes bywyd a gyrfa yr actor o Bontrhydyfen, Richard Burton yn y sinemâu ar 4 Ebrill, a hithau'n 100 mlwyddiant ei eni eleni.

Yn ôl cyfarwyddwr y ffilm, y Cymro Marc Evans, mae'r ffilm yn darlunio gwreiddiau Burton a'i flynyddoedd cynnar ym Mhontrhydyfen cyn mynd ymlaen i serennu mewn dramâu Shakespeare ar ddechrau'r '50au.

Ac yn greiddiol i'r darlun o'i fywyd ym Mhontrhydyfen mae'r arweiniad a gafodd gan ei athro yn ei ysgol uwchradd ym Mhort Talbot sef Philip Burton.

"Roedd Philip Burton yn ryw fath o fentor i Richard ifanc ac mae'r ffilm yn delio gyda'r berthynas rhwng y ddau," eglurodd Marc ar raglen Dros Ginio, Radio Cymru.

Dylanwad Philip Burton

Collodd Richard ei fam pan oedd yn ddyflwydd oed ac roedd ei berthynas â'i dad, a oedd yn alcoholig, yn gymhleth. Ac yn ôl Marc, er i Philip Burton fod yn ŵr tawel a mewnblyg roedd ei ddylanwad ar Richard mor fawr nes i Richard ddefnyddio'r cyfenw Burton fel ei enw llwyfan:

"Oedd Philip yn ddyn mewnol iawn. Oedd e'n ddyn hoyw oedd yn byw mewn cyfnod anodd iawn i ddynion hoyw. Oedd e'n byw ym Mhort Talbot yn ystod y rhyfel.

"Oedd e'n cymryd risg drwy fod yn athro arbennig i Richard oedd yn llawn angerdd yn ifanc ac yn wrywaidd iawn."

Toby Jones sy'n chwarae rhan Philip Burton yn y ffilmFfynhonnell y llun, Icon Film Distribution
Disgrifiad o’r llun,

Toby Jones sy'n chwarae rhan Philip Burton yn y ffilm

Cymreictod Richard Burton

Yr actor sy'n chwarae rhan Richard Burton yn y ffilm yw Harry Lawtey o Loegr, ac mae Marc yn cyfiawnhau ei benderfyniad i beidio castio actor o Gymru:

"Roedd gyda ni awydd i gastio Cymro i chwarae rhan Richard a pe bydden ni wedi ffindio fe yn sicr fydden ni wedi castio fe.

"Yn y gorffennol mae yna actorion sy'n dod i'r meddwl, falle Matthew Rhys neu Michael Sheen ond dwi ddim yn siŵr fod yr actor yna ar gael ar y foment. Falle bod ni ddim wedi ffeindio fe ac falle bod e mas yna ac os hynny, fi'n ymddiheuro.

"Ryw fath o dalu 'nôl 'nes i o safbwynt y ffaith bod Harry yn Sais, oedd castio Daniel Evans sy'n Gymro fel y boi sy'n cyfarwyddo fe yn Stratford, achos mae Daniel nawr wrth gwrs yn un o gyfarwyddwyr artistig y Royal Shakespeare Theatre."

Harry Lawtey fel Richard BurtonFfynhonnell y llun, Icon Film Distribution
Disgrifiad o’r llun,

Harry Lawtey fel Richard Burton

Mae Marc yn gobeithio fod y ffilm yn gwneud cyfiawnder â chefndir dosbarth gweithiol Burton hefyd:

"Oedd Burton yn dod o gefndir tlawd iawn ac mae pobl yn anghofio hynny dwi'n meddwl. Mae'n iawn clodfori diwylliant dosbarth gweithiol diwydiannol a ni'n gyfarwydd iawn â hynny yng Nghymru ond fe oedd y 12fed o 13 o blant."

Mae'r ffilm hefyd yn ymdrin â Chymreictod Burton, ac yn ôl Marc, roedd ei lais, ei acen a'i wreiddiau yn rhywbeth na allodd ddianc oddi wrtho:

"A'th e ar y daith yma o fod yn llai Cymreig er mwyn ei ddyfodol fel actor ond be' mae pawb yn cofio amdano fo yn y diwedd ydi y boi â'r llais Cymraeg achos oedd rwbeth am y llais - oedd e 'di cadw yr elfen o Gymreictod yn y ffordd oedd e'n darllen Shakesepeare."

ffilmFfynhonnell y llun, Icon Film Distribution