Peiriant meddyginiaeth 'arloesol' cyntaf Ewrop yng Ngwynedd

Robot meddyginiaeth Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r peiriant robotig newydd wedi'i leoli y tu allan i Ysbyty Dolgellau

  • Cyhoeddwyd

Mae peiriant robotig newydd yn cael ei dreialu yng Ngwynedd, sy'n galluogi cleifion sy'n cael apwyntiad meddygol dros y ffôn i nôl eu meddyginiaeth pan nad yw fferyllfeydd ar agor.

Y peiriant REMEDY yn Nolgellau yw'r cyntaf o'i fath yn Ewrop.

Mae pobl sy'n cysylltu â gwasanaeth 111 y gwasanaeth iechyd y tu allan i oriau gwaith, ac sydd angen meddyginiaeth ar frys, yn cael cynnig yr opsiwn i'w casglu o'r peiriant y tu allan i Ysbyty Dolgellau.

Bydd y dechnoleg newydd hefyd yn ffordd o dreialu dulliau posib i gyflenwi meddyginiaethau brys mewn mannau gwledig yn y dyfodol.

'Cyfle ffantastig'

Bydd y peiriant yn cael ei dreialu am ddwy flynedd yn Nolgellau.

Mae'n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac yn brosiect ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor, mewn cydweithrediad â'r gwneuthurwr Videosystems, y cyflenwr Omnicell, a Phrifysgol Rhydychen.

Sioned Rees
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n gyfle ffantastig i ni," meddai'r fferyllydd Sioned Rees

Mae Sioned Rees, fferyllydd cymunedol yn y gogledd, yn dweud bod y peiriant yn gyfle cyffrous i'r ardal.

"Does dim fferyllfeydd ar agor y tu allan i oriau yn lleol felly mae cleifion yn y gorffennol yn gorfod trafeilio pellteroedd eithaf maith i gael cyflenwad o feddyginiaethau," meddai.

"Maen nhw'n gorfod teithio beth bynnag awr, felly dydi hynny ddim yn gyfleus pan mae rhywun yn fregus neu'n sâl.

"Felly mae hyn am ddod â darpariaeth llawer iawn mwy agos iddyn nhw.

"Os fysa chi'n glaf yn Tywyn neu Dolgellau, y lle agosaf fysa [Ysbyty] Alltwen, felly mae'n round trip eithaf sylweddol i rhywun - awr a hanner i gael cyflenwad o feddyginiaeth.

"Mae'n gyfle ffantastig i ni dwi'n teimlo ar gyfer y bobl yn lleol, ac mae o am roi ni mewn prosiect sy'n rhoi opsiynau i boblogaeth gogledd Cymru er mwyn gweld be' sydd ar gael i hybu iechyd y boblogaeth."

Sut mae'r peiriant yn gweithio?

Dywedodd Ms Rees fod y broses o gael meddyginiaeth o'r peiriant yn eithaf syml.

"Mi fasa'r unigolyn neu'r claf yn cysylltu gyda'r meddyg y tu allan i oriau, ac mi fyddan nhw'n cael sgwrs ynglŷn â'u cyflwr.

"Mi fysa'r meddyg wedyn yn gwneud penderfyniad clinigol ar beth yw'r cyflwr a pha driniaeth sydd angen, ac os ydy'r driniaeth yna'n rhywbeth sydd ar gael, mi fasa'r opsiwn iddyn nhw gael rhif pin - fel tasa chi'n mynd i beiriant yn y banc.

"Mi fasa nhw'n dod yma wedyn, mewnbynnu'r côd i'r peiriant, ac mae hwnnw wedyn yn dosbarthu'r feddyginiaeth briodol iddyn nhw ar gyfer y cyflwr."

Dr Rebecca Payne
Disgrifiad o’r llun,

Dr Rebecca Payne sydd wedi arwain ar y cynllun, gan edrych ar sut mae'r peiriant newydd yn gweithio

Dr Rebecca Payne - meddyg teulu academaidd ym Mhrifysgol Bangor - fydd yn cyd-arwain yr astudiaeth gyda'r Athro Dyfrig Hughes, yn edrych ar y peiriant newydd a sut mae'n gweithio.

Dywedodd: "Mae hyn yn dechnoleg sy'n torri tir newydd... dydi hyn erioed wedi'i wneud yn Ewrop.

"Rydyn ni'n gwybod bod 70% o bobl sy'n ffonio 111 yn cael eu trin dros y ffôn, ond mewn gwirionedd, os ydych chi'n byw mewn rhywle fel Dolgellau, lle nad oes fferyllfa ar agor dros nos neu ar ddyddiau Sul, mae'n anodd iawn cael mynediad at feddyginiaeth.

"Mae mor gyffrous gweld y byd academaidd yn dod ynghyd â'r gwasanaeth iechyd a'r diwydiant yma i ddiwallu anghenion cleifion."

Dr Nia Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Nia Jones o Brifysgol Bangor o'r farn y bydd y peiriant robotig newydd yn "gwneud gwahaniaeth" mawr i gleifion

Dywedodd Nia Jones, deon meddygaeth ysgol feddygol Prifysgol Bangor: "Nod prosiect REMEDY ydy i ddatblygu, i astudio a gwerthuso y peiriant meddyginiaeth yma mewn ardaloedd gwledig o fewn gogledd Cymru.

"Mae'n rhan o ymchwil cyffrous a phwysig iawn, ac yn rhywbeth sy'n mynd i helpu ein cleifion yn yr ardal yma - ardal wledig.

"Mae'n gyffrous iawn - mae'n esbonio anghenion y gymuned ac yn rhywbeth 'da ni'n meddwl sy'n mynd i neud gwahaniaeth iddyn nhw."

Dywedodd Dr Jones ei bod yn meddwl y bydd y peiriant yn "gwneud gwahaniaeth".

"Mae o'n rhan o'n datblygiadau ni o fewn ysgol feddygol gogledd Cymru er mwyn i ni alluogi ein cleifion gael y gofal maen nhw angen, yn yr amser maen nhw angen o."

Er yn cael ei brofi ar hyn o bryd, mae ymateb cadarnhaol wedi bod gan nifer yn lleol.

Dywedodd Llinos Rowlands, sy'n byw yn Nolgellau, fod y peiriant yn "beth da".

"Os 'dio'n dod â meddyginiaeth mewn heb gost ychwanegol ac yn helpu pobl, mae'n beth da.

"Dwi wedi bod yn lwcus efo fy iechyd... ond mi faswn i'n ddiolchgar iawn i gael rhywbeth fel'ma yn yr ardal os dwi angen o.

"Mae 'na gymuned eithaf hen, 'swn i'n deud, yn Dolgellau ac mae teithio awr i gael meddyginiaeth yn bell.

"Felly mae'n neud gwahaniaeth mawr - heb sôn am y gost ychwanegol o orfod teithio, neu rhai pobl ddim yn gyrru ac yn gorfod dal bws.

"A dydi hynny ddim am fod yn hawdd i rywun sydd ddim yn yr iechyd gorau."

Llinos Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y peiriant newydd o gymorth i bobl sydd yn ei chael hi'n anodd teithio, yn ôl Llinos Rowlands

Mae Lois o Ddolgellau hefyd o'r farn ei fod yn syniad da.

Dywedodd: "Mae'n dipyn o daith i Fangor neu Aberystwyth - weithiau'n bellach.

"Mynd â'r mab, mae ganddo anabledd dysgu, ac mae'n gorfod mynd yn bell... mi fasa'n help mawr, mae'n angenrheidiol cael y pethau yma i helpu."

Donna
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Donna, sy'n gweithio yn ardal Dolgellau, fod y peiriant newydd yn "syniad da"

Mae Donna o Gaernarfon yn gweithio yn Nolgellau, ac yn dweud fod y peiriant robotig newydd yn "syniad gwych".

Dywedodd: "Cyn belled bod pobl methu mynd mewn iddo fo a thorri mewn iddo fo.

"Dwi'n digwydd bod wedi sgwrsio efo person ifanc yn yr ardal sy'n gorfod teithio i Ysbyty Gwynedd, mae'n bell iddo fynd.

"Dydi trafnidiaeth ddim yn grêt yma - hwnnw ydi'r peth mwyaf - dydi hi ddim yn hawdd teithio, does dim llawer o fysiau yn mynd nôl a 'mlaen.

"Port [Porthmadog] ydy'r lle agosaf i fan hyn mae'n siŵr... felly dwi'n meddwl fod o'n syniad da mewn lle fel hyn."

Wrth ymateb i sylwadau am bobl yn camddefnyddio'r peiriant, dywedodd Dr Rebecca Payne o'r cynllun fod mesurau mewn lle i atal hynny, gyda chamerâu o'i gwmpas a'r peiriant ei hun wedi'i folltio i'r llawr.