Pêl-droed yng Nghymru yn gyrru newid agweddau at y Gymraeg

- Cyhoeddwyd
YMA O HYD. Hetiau BWCED. A'r Iaith Gymraeg. Trawsnewidiad delwedd Cymru i'r byd trwy gêm y bel crwn.
Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi gwneud defnydd o ddiwylliant Cymreig i drawsnewid hunaniaeth y tîm cenedlaethol ar ac oddi ar y cae.
Ym Mae Caerdydd Ddydd Gwener daeth aelodau blaenllaw'r byd pêl-droed at ei gilydd i drafod yr union berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a gêm y bêl gron.
Ac yn ôl Tim Hartley, sy'n arbenigwr yn y maes, mae cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi bod yn flaengar wrth weddnewid agweddau diwylliannol yn nhorf gemau rhyngwladol Cymru.

"Ma' rhaid dweud bod Cymdeithas Bêl-droed wedi cofleidio'r Gymraeg," meddai Tim Hartley
"Ma' rhaid dweud bod Cymdeithas Bêl-droed wedi cofleidio'r Gymraeg ac wedi gwneud hi'n amlwg ac wedi normaleiddio hi.
"Ond wrth gwrs mae'r ffans eu hunain wedi hefyd.
"Ma' angen yr hwb yna, y mwya' yn y byd sy'n digwydd, y mwya' o hoffter a normaleiddio'r Gymraeg sy'n digwydd, gorau'n byd 'wy'n credu. "

"Mae Barça yn gweithredu fel llysgennad i Catalunya," meddai Maria de Lluc Munoz Canyelle
Mae'r arfer o gwmpasu tîm pêl-droed trwy ddiwylliant yn un sydd i'w weld ar hyd a lled cyfandir Ewrop – ac ymhlith rhai o dimau mwya'r byd.
Mae Maria de Lluc Munoz Canyelles o Barcelona wedi gweld dylanwad yr iaith ar lwyddiant y tîm lleol.
"Mae pawb sy'n caru pêl-droed yn adnabod Clwb Pêl-droed Barcelona ac arwyddair y clwb yw eu bod 'yn fwy na chlwb yn unig'," meddai.
"Mae Barça yn gweithredu fel llysgennad i Catalunya ac yn gweithredu fel porth i bobl ddeall bod yr iaith yn rhan o bwy ydym ni.
"Ac mae'n help i ddeall pa mor bwysig yw'r iaith i hunaniaeth y clwb ond hefyd hunaniaeth pobl Catalunya a Barcelona."

"Ma' Cymdeithas Bêl-droed Cymru jyst wedi creu'r awyrgylch hyn bod ni fel cefnogwyr yn gallu bod yn rhan o'r tîm," meddai Elis Sleight
Gyda chynnydd aruthrol yn y niferoedd sy'n dilyn Cymru gartref ac i ffwrdd ers Ewro 2016, mae Elis Sleight, aelod o'r wal goch a chefnogwr Rygbi Cymru yn honni fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gosod esiampl i'r hyn ddylai Undeb Rygbi Cymru wneud er mwyn cynrychioli Cymru yn 2025.
"Ma' Cymdeithas Bêl-droed Cymru jyst wedi creu'r awyrgylch hyn bod ni fel cefnogwyr yn gallu bod yn rhan o'r tîm, yn rhan o'r profiad, yn rhan o'r iaith a'n rhan'r wlad.
"Ar ddiwedd y dydd os ma' nhw'n rhoi popeth i ni, newn ni rhoi popeth i nhw. They just get it."
A chael hi'n iawn ar gae Stadiwm Dinas Caerdydd fydd nod Craig Bellamy wrth i Gymru herio Kazakhstan nos Sadwrn yn eu hymgyrch i gyrraedd Ail Gwpan y Byd yn olynol.
A chyfle arall i gefnogwyr Cymru i ffeindio'i llais yn y Brif Ddinas.