Ysgol gynradd yn dal ar gau yn dilyn bygythiad cyllell

Fe gadarnhaodd y cyngor nos Lun y byddai'r ysgol yn parhau ar gau ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Bydd ysgol gynradd yn Llanelli yn parhau ar gau ddydd Mawrth ar ôl i negeseuon bygythiol gael eu gwneud ar y we.
Roedd Ysgol Gynradd Dafen ar gau ddydd Llun wedi i Heddlu Dyfed-Powys dderbyn gwybodaeth yn oriau mân y bore, oedd yn golygu bod angen gweithredu camau diogelu.
Esboniodd yr heddlu yn ddiweddarach fod y bygythiad yn ymwneud ag awgrym y byddai "unigolion gyda chyllyll yn mynd i'r ysgol ddydd Llun".
Cafodd y penderfyniad i gau'r ysgol ei wneud ar y cyd rhwng yr heddlu a Chyngor Sir Gâr, gyda phresenoldeb swyddogion yn amlwg yn yr ysgol ac ardaloedd o'i hamgylch gydol y dydd.
Nos Lun fe wnaeth y cyngor gadarnhau y byddai'r ysgol yn parhau ar gau ddydd Mawrth "yn dilyn digwyddiadau heddiw", ac y bydd gwersi yn cael eu cynnal ar-lein.
Mewn diweddariad brynhawn Mawrth, daeth cadarnhad y bydd yr ysgol yn ailagor ddydd Mercher.
'Tawelwch meddwl' i ysgolion eraill
Mewn datganiad brynhawn Llun, dywedodd yr heddlu: "Gallwn ddatgelu erbyn hyn fod y bygythiad yn ymwneud ag Ysgol Dafen wedi ei wneud ar-lein, a'i fod yn awgrymu y byddai unigolion gyda chyllyll yn mynd i'r ysgol ar ddydd Llun, 3 Tachwedd.
"Cafodd digwyddiad difrifol ei ddatgan oherwydd natur y bygythiad, ac yna fe gafodd y penderfyniad i gau'r ysgol ei wneud wrth weithio'n agos gyda Chyngor Sir Gâr.
"Cafodd y bygythiad ei adrodd i Heddlu'r Met yn wreiddiol, a chafodd hynny ei basio 'mlaen i Heddlu Dyfed-Powys am 02:30.
"... Gallwn gadarnhau bellach bod y bygythiad wedi dod gan un ffynhonnell anhysbys heb unrhyw wybodaeth bellach i'w gefnogi.
"Yn dilyn ymholiadau trylwyr gan ymchwilwyr arbenigol rydyn ni'n hyderus nad oes unrhyw berygl i'r cyhoedd, ac mae'r ymchwiliad wedi dod i ben."
Ychwanegodd y datganiad y bydd swyddogion yn bresennol yn yr ardal nos Lun, ac y byddant "hefyd yn ymweld ag ysgolion yn ardal ehangach Llanelli ddydd Mawrth i roi tawelwch meddwl".
Ailagor ddydd Mercher
Brynhawn Mawrth fe wnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin gadarnhau y byddai'r ysgol yn ailagor ddydd Mercher, wedi iddyn nhw a'r heddlu benderfynu "nad oes perygl erbyn hyn".
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr aelod cabinet dros addysg: "Hoffwn ganmol Ysgol Gynradd Gymunedol Dafen am fod mor gryf yn ystod cyfnod sydd wedi bod yn anodd i bawb.
"Rydyn ni'n ddiolchgar am eu dealltwriaeth wrth i ni gefnogi Heddlu Dyfed-Powys o ran sicrhau y gall disgyblion a staff ddychwelyd i amgylchedd addysg diogel a hapus."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.