O'r Gŵyr i Gwpan y Byd

- Cyhoeddwyd
"Tydw i ddim eisiau cynrychioli Lloegr yn rhyngwladol. Dwi'n dod o Gymru a dwi'n falch o hynny."
Dyna eiriau Ceri Williams sy' mewn sefyllfa unigryw iawn pan mae hi'n dod i fod yn ddyfarnwr cynorthwyol pêl-droed.
Nid yn aml mae swyddog yn cael croesi ffiniau Clawdd Offa i weithio ar gemau yng Nghymru a Lloegr, ond mae Ceri yn gwneud hynny ers 2020.
Mae hi'n gweithio fel dyfarnwr cynorthwyol yn yr Uwch Gynghrair yng Nghymru, yn gweithredu ar gynghrair y Women's Super League (WSL) yn Lloegr ac eleni hefyd yn rhan o banel y Gynghrair Bêl Droed yn Lloegr ac yn gweithredu yn yr adran gyntaf a'r ail.
Mae Ceri yn siarad gyda BBC Cymru Fyw ychydig ddyddiau cyn iddi hedfan i Weriniaeth Dominica i gynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd i Ferched dan 17 oed.
Ond ble ddechreuodd y cyfan? Beth oedd yr apêl? A sut mae hi wedi cyrraedd y lefel uchaf o ran y byd pêl droed yn rhyngwladol mewn cyfnod ble mae hi'n cael beirniadaeth gyson, a hyd yn oed rhai bygythiadau yn erbyn ei bywyd gan rai cefnogwyr?

Fe ddechreuodd Ceri ddyfarnu yng nghyngreiriau Abertawe yn 2010
Mae Ceri, sy'n 29 oed, yn dod o'r Mwmbwls, Gŵyr, ond mae hi ar hyn o bryd yn byw yn Derby.
"Fy swydd sydd wedi dod a fi yma, ar ôl i mi adael cartref a mynd i'r Brifysgol yn Llundain, ges i swydd mewn ysbyty yn Derby a dyma lle ydw i byth," meddai.
Cyn i Ceri adael am y Brifysgol roedd hi wedi cymhwyso fel dyfarnwr pêl-droed.
"Roeddwn yn 15 ar y pryd a thua 2010 oedd hi. Nath fy nhad a fy mrawd mynd ar gwrs dyfarnu ac fe wnaethon nhw fy mherswadio i i neud y cwrs hefyd.
"Ar ôl pasio roeddwn yn gwneud gemau ieuenctid yn ardal Abertawe ac yn sydyn iawn roeddwn yn dechrau cael gemau yn y cynghreiriau uwch.
"Nes i adael i fynd i'r coleg yn Llundain yn 2013 a dyna phryd nes i ddechrau neud gemau yn Lloegr a dod i sylw'r FA yn fanno.
"Roedd y WSL ar y pryd yn eithaf newydd a doedd proffil y gêm merched yn Lloegr ddim byd fel y mae heddiw.
"Nes i ddechrau gwneud gemau ar y WSL yn 2019, dyna'r flwyddyn hefyd i mi gael dyrchafiad i lefel FIFA fel dyfarnwr cynorthwyol ac wedyn i Uwch Gynghrair Cymru yn 2021," meddai.
Torri record
Mae'r pedair blynedd ddiwethaf wedi bod yn gofiadwy iawn i Ceri.
Yn ogystal â gweithredu yn Lloegr ac yng Nghymru, mae hi hefyd wedi bod yn rhan o dîm y dyfarnwr Cheryl Foster ar gemau yn Ewrop.
"Roedd cael gweithio gyda Cheryl yn wych, mae hi wastad wedi bod yn rhywun dwi wedi edrych i fyny ati hi. Ges i weithio efo hi ar gêm Wolfsburg v PSG yn rownd wyth olaf Cynghrair y Pencampwyr i ferched.
"Dwi hefyd wedi gwneud gêm yn y Nou Camp, Barcelona, roedd hwnna'n brofiad arbennig," meddai.
Ond yn ôl Ceri roedd Euro 2022 yn drobwynt i bêl-droed merched nid yn unig yn Lloegr ond ym Mhrydain.
"Ers yr Euros yna pan enillodd y Lionesses, mae'r nifer o bobl sy'n mynd i wylio gemau'r WSL yn anhygoel. Mae stadiymau mawr fel yr Emirates ac Old Trafford nawr yn gwerthu allan i gemau merched.
"Roeddwn yn gwneud Arsenal yr wythnos diwethaf ac roedd dros 60,000 yno yn gwylio'r merched. Mae hynny'n anhygoel i gymharu efo ychydig flynyddoedd yn ôl," meddai.
Yn ôl yng Nghymru mae Ceri wedi torri sawl record. Mae hi'n ystyried y flwyddyn yma'n un o'r rhai hapusaf ar y cae.
Hi oedd y ferch gyntaf mewn hanes i gael ei dewis i fod yn rhan o dîm dyfarnu ffeinal Cwpan Cymru i'r dynion.
"Roedd y diwrnod yna yn un fythgofiadwy. Pan dwi'n gwisgo fy mathodyn FIFA ar fy mrest i bob gêm dwi'n gwneud hynny yn cynrychioli Cymru, ac mae cael eich dewis i ffeinal prif gystadleuaeth eich gwlad yn anrhydedd arbennig," meddai.

Ceri oedd y ferch gyntaf erioed i fod yn rhan o dîm dyfarnu Cwpan Cymru'r dynion a hynny yn 2024
Ychydig wythnosau ar ôl i'r tymor diwethaf ddod i ben cafodd Ceri wybod y byddai yn cael ei dewis i fod ar banel dyfarnwyr cynorthwyol y Gynghrair Bêl-droed yn Lloegr.
Hi, unwaith eto, yw’r ferch gyntaf o Gymru i gael ei dewis i weithio ar gemau yn League 1 a League 2 yn Lloegr.
Daeth ei gêm gyntaf ddiwedd mis Awst pan heriodd Walsall Bradford a'r penwythnos diwethaf roedd hi yn Rotherham v Reading.
"Does dim gwahaniaeth i mi beth yw'r gêm, dwi'n trio gwneud fy ngorau ym mhob un.
"Pan mae 'na ddegau o filoedd yn eich gwylio chi, mae'r sŵn yn drydanol, dwi'n lwcus iawn cael gwneud gemau gwahanol yng Nghymru ac yn Lloegr.

Ceri yn rhan o dîm dyfarnu yn stadiwm Emirates Arsenal yn ddiweddar
Un peth sy'n dod gyda'r swydd o ddyfarnu ar y lefel uchaf yw'r feirniadaeth ddi-ddiwedd.
Yn sicr mae Ceri yn credu ei bod hi wedi gorfod profi ei hun yn fwy yng ngêm y dynion am ei bod hi'n ferch.
Mae ambell i ddigwyddiad anffodus wedi codi hefyd ble mae hi wedi cael ei beirniadu ar sail y ffaith ei bod hi'n ferch sy'n gweithredu yng ngêm y dynion.
"Dwi wedi cael ambell i berson yn gweiddi pethau sarhaus o'r ochr, ond y peth gwaethaf oedd cael bygythiadau ar-lein yn fy erbyn yn dilyn gêm yn y WSL.
"Bryd hynny roedd yn rhaid i mi adrodd popeth i'r heddlu.
"Yn anffodus mae'r math yma o ymddygiad yn rhan o bêl-droed modern," meddai.

Mae Ceri yn falch o gael gwneud gemau yng Nghymru ac yn gobeithio denu mwy o ferched i ddyfarnu
Ar wahan i'w gwaith fel ffisiotherapydd, mae Ceri'n gyfrifol am ddatblygu dyfarnwyr benywaidd yng Nghymru.
Fel rhan o'r rôl mae hi'n ceisio recriwtio cymaint o ferched fewn i'r gêm.
"Dwi'n falch iawn o gyflawni'r rôl yma, ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer o ferched yng Nghymru sy'n dewis dod lawr y llwybr dyfarnu.
"Ar hyn o bryd mae 80 wedi'u cofrestru a dwi'n edrych ymlaen at fod yn rhan o osod y strwythur yma yng Nghymru."
Y gobaith i Ceri yw i "ddenu fwy o ferched i'r gêm yng Nghymru" ac i weld mwy o ferched yn mwynhau bod yn rhan o bêl-droed ac i ddatblygu ei gyrfa ei hun ar y cae yn yr un modd.
"Mae'r flwyddyn nesaf yma yn un bwysig i mi sefydlu fy hun ar y cynghreiriau yr wyf newydd gael dyrchafiad arnyn nhw, ac dwi'n edrych ymlaen at hynny yn arw," meddai.
Bron i bymtheg mlynedd ers iddi basio'r cwrs yn y Mwmbwls, prin oedd hi'n disgwyl y byddai'n camu ar awyren yn barod i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth Cwpan y Byd yn gwneud swydd mae hi wrth ei bodd yn ei chyflawni.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd28 Medi 2024
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2022