11 trobwynt yn hanes pêl-droed merched: O waharddiad i ymgyrch Cwpan y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae tîm merched Cymru ar fin ailddechrau eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn ei hanes - cam enfawr ymlaen o feddwl eu bod wedi eu gwahardd rhag chwarae ar gaeau pêl-droed tan y 70au.
Felly wrth i 11 gamu ar y cau ar 8 Ebrill - ganrif ers dechrau'r gwaharddiad - dyma 11 trobwynt yn hanes gêm y merched sy'n dangos bod nifer fawr wedi haeddu medalau dros y degawdau am frwydro i gael chwarae.
Bydd gêm ragbrofol Cwpan y Byd Cymru v Ffrainc yn cael ei darlledu yn fyw o Barc y Scarlets ar Cymru Fyw nos Wener 8 Ebrill am 1945
1. Y gwaharddiad - 3 Mawrth 1922
Dros ganrif yn ôl roedd 'na filoedd yn gwylio pêl-droed merched a'r gêm ar ei hanterth. Gyda chymaint o ddynion yn brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf a newidiadau cymdeithasol ar droed, roedd timau merched wedi eu sefydlu yn y ffatrïoedd lle'r roedden nhw'n gweithio - fel y ffatrïoedd arfau.
Roedd torfeydd mawr yn gwylio rhai gemau, sefydlwyd cynghrair yn 1917 a thîm cenedlaethol yn 1921.
Ymateb Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar 3 Mawrth 1922 oedd gwahardd unrhyw gemau merched ar eu caeau. Roedd penderfyniad tebyg wedi ei wneud yn Lloegr rai misoedd ynghynt, ac mae'n debyg mai poblogrwydd gêm y merched, ac o bosib newid agweddau ar ddiwedd y rhyfel, oedd y rheswm.
2. Gemau elusennol - 1922-ymlaen
Er bod y gwaharddiad wedi cael effaith fawr ar ddatblygiad y gêm, wnaeth o ddim ei stopio.
Roedd timau yn gofyn caniatâd i chwarae gemau i godi arian at achosion da, yn cynnwys ar gaeau oedd ddim yn dod o dan awdurdod y Gymdeithas, fel caeau criced a rygbi.
Er enghraifft, fe wnaeth Marcwis Biwt adael i gêm elusennol gael ei chwarae ar Barc yr Arfau ar 22 Mawrth 1922. Daeth 15,000 i wylio tîm enwog Dick, Kerr Ladies o dref Preston yn erbyn Olympic de Paris o Ffrainc.
Ar 6 Mehefin 1938, o flaen torf o 5,000 yn Cheltenham, fe wnaeth tîm merched Cymru guro Lloegr - am y tro cynta', a'r unig dro… hyd yma wrth gwrs.
3. Cryfhau'r gwaharddiad - 1939
Ar drothwy'r Ail Ryfel Byd, cryfhawyd y gwaharddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru - oedd wedi bod yn rhoi caniatâd arbennig i rai gemau elusennol rhwng timau merched.
Mae munudau'r Gymdeithas o 29 Awst 1939 yn ei gwneud hi'n glir na ddylai clybiau, swyddogion, chwaraewyr na dyfarnwyr wneud unrhyw beth gyda gemau rhwng timau merched, o bosib i arbed arian gan fod swyddogion yn hawlio treuliau i fynd i weld rhai o'r gemau merched.
Ddegawdau yn ddiweddarach, pan geisiodd Ken Hughes gael caniatâd y Gymdeithas i gynnal gêm elusennol ar gae pêl-droed y Rhyl yn 1962 derbyniodd lythyr yn gwrthod oherwydd: "We think that football is a man's game and that there is no place for lady players."
4. '1966 and all that'… diddordeb yn cynyddu
Gyda Chwpan y Byd yn cael ei chynnal dros y ffin yn 1966, sefydlwyd nifer o dimau merched mewn ffatrïoedd - er enghraifft Johnson Rangers (Port Talbot) a J.R. Freemans (Caerdydd). Sefydlwyd timau annibynnol hefyd - fel Llanrwst Ladies a Prestatyn Ladies, fyddai'n cael llwyddiant mawr dros y blynyddoedd nesaf.
Ar ddiwedd 1969, sefydlwyd y Ladies Football Association of Great Britain (gafodd ei ailenwi yn Women's Football Association) yn Llundain i weinyddu a hyrwyddo'r gêm - er bod diffyg arian a chefnogaeth yn gyffredinol. Roedd aelodau'r gymdeithas yn dod o Loegr, Iwerddon a Chymru.
5. Pwysau gan FIFA ac agweddau'n dechrau newid - 1970
Mis Mawrth 1970, gofynnodd FIFA - gweinyddwyr y gêm yn rhyngwladol - i'w holl aelodau os oedden nhw'n cydnabod pêl-droed merched. Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod nhw - er fod eu gwaharddiad yn dal i sefyll tan ddiwedd Mai.
Yna gofynnodd gweinyddwyr y gêm yn Ewrop, UEFA, i'w haelodau gydnabod gêm y merched a sicrhau ei fod yn cael ei reoli'n iawn. Roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn fodlon i'r WFA barhau i wneud hynny yng Nghymru.
6. Cynghrair Cymru a gemau ryngwladol - 1972/73
Cam ymlaen wrth sefydlu Cynghrair Merched Cymru gyda 10 o dimau, ond i gyd yn y de. Yn y gogledd roedd timau fel y Prestatyn Ladies yn chwarae mewn cynghreiriau dros y ffin.
Ac fe sefydlwyd tîm cenedlaethol gyda'r gyntaf mewn nifer o gemau dros y ddegawd nesaf yn cael ei chwarae ar 13 Mai 1973 - yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Llanelli. Oherwydd diffyg arian - problem barhaus i gêm y merched - roedd Cymru yn gwisgo crysau wedi eu benthyg gan Abertawe gan mai coch oedd ail liwiau'r Elyrch.
Dechreuodd y gêm gael ei gweinyddu yng Nghymru pan sefydlwyd Wales Women's International Football i wneud gwaith y WFA.
7. Llanedeyrn Ladies… a chwalu Cynghrair Cymru - 1975
Un cam ymlaen, a dau yn ôl…
Sefydlwyd Llanedeyrn Ladies yn 1975 - rhagflaenydd Cardiff City Ladies, tîm sydd wedi meithrin rhai o chwaraewyr gorau Cymru dros y blynyddoedd yn cynnwys Jess Fishlock, Kath Morgan, Gwennan Harries a Loren Dykes.
Ond ar ôl tri mis yn chwarae yng Nghymru roedd yn rhaid i Llanedeyrn Ladies chwarae o fewn system Lloegr wrth i Gynghrair Cymru ddod i ben oherwydd diffyg gemau cystadleuol.
8. Sefydlogrwydd… ond dim arian - 1978 a'r 80au
Ar ôl nifer o reolwyr gwahanol dros gyfnod, ym mis Chwefror 1978 fe wnaeth Ida Driscoll, cadeirydd y WWFI, benodi Sylvia Gore.
Byddai cyn-chwaraewr Lloegr, Manchester Corinthians, Foden a Prestatyn Ladies yn rheoli am gyfnodau am y ddegawd nesaf.
Roedd arian yn dal yn broblem. Doedd Cymru methu chwarae yn y gystadleuaeth merched gyntaf i UEFA ei threfnu yn 1982/83 oherwydd diffyg arian; fe wnaeth Sylvia Gore fuddsoddi £5,000 o'i harian ei hun yn y gêm ac roedd y chwaraewyr yn aml yn talu i fedru chwarae.
9. Ymuno â'r Gymdeithas - 1992
Gyda thîm y dynion yn llewyrchu o dan Terry Yorath, ac yn agos at gyrraedd Cwpan y Byd, doedd 'na dal ddim diddordeb yng ngêm y merched o fewn Cymdeithas Pêl-droed Cymru
Felly fe ofynnodd y chwaraewyr rhyngwladol Laura McAllister, Michelle Adams a Karen Jones am gyfarfod gydag ysgrifennydd y Gymdeithas, Alun Evans, a lobïo'r Gymdeithas i fod yn gyfrifol am dîm cenedlaethol y merched.
Ar ôl gwylio gêm a thrafod… fe gytunodd, gan ddechrau'r cyfnod modern.
10. Cwpan FA a phencampwriaeth UEFA - 1993
Un o'r pethau cyntaf wnaeth y Gymdeithas oedd dechrau Cwpan FA Merched Cymru gyda'r gêm derfynol yn cael ei chwarae cyn gornest y dynion yn y Stadiwm Genedlaethol fis Mai 1993. Pilkington, Llanelwy (newidiodd i'r Rhyl ar ôl symud yn fuan wedyn) aeth a hi.
Penodwyd Lyn Jones (o dîm dynion Inter Cardiff) yn rheolwr ar y tîm cenedlaethol i geisio am le ym mhencampwriaeth UEFA y merched. Fel rhan o'u paratoadau, fis Medi 1993 chwaraewyd gêm gyntaf y cyfnod modern ym Mhort Talbot - gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad yr Iâ. Colli wnaeth Cymru 0-1.
Colli eu gemau nesaf i gyd wnaeth Cymru a methu mynd i'r bencampwriaeth. Roedd ffordd bell i fynd, ond roedd yn gam mawr i'r cyfeiriad iawn.
11. Rheolwr cyflogedig llawn amser - 2010-presennol
O'r diwedd, 2010 a phenodi'r rheolwr cyflogedig llawn-amser cyntaf i dîm merched Cymru - Jarmo Matikainen o'r Ffindir, wnaeth gyflwyno syniadau newydd a chodi ffitrwydd eto.
Un o chwaraewyr mwyaf llwyddiannus Cymru, Jayne Ludlow, wnaeth gymryd yr awenau yn 2015, ac roedd hi'n gyfrifol am 53 gêm gan ddod yn agos i gyrraedd Cwpan y Byd 2019 ac Ewro 2021.
Erbyn heddiw, Gemma Grainger sydd wrth y llyw. Yn dilyn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn ystod Ebrill a Medi 2022 fe fydd hi a'i thîm yn gobeithio cyrraedd y gystadleuaeth yn Awstralia/Seland Newydd y flwyddyn nesaf a chael diweddglo teilwng i ddegawdau o frwydro ar, ac oddi ar y cae.
Mae'r erthygl yma wedi ei seilio ar wybodaeth gan ymchwilydd hanes pêl-droed merched Cymru John Carrier, fydd yn cyhoeddi ei lyfr No One Listens Until The Ground Shakesyn fuan.
Hefyd o ddiddordeb: