Apêl heddlu ar ôl ymosodiad rhyw mewn gorsaf drên

- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wrth ymchwilio i ymosodiad rhyw ar fenyw yng ngorsaf drên Caerfyrddin.
Digwyddodd yr ymosodiad gan ddyn ychydig cyn 14:50 ddydd Iau 13 Gorffennaf, yn ôl yr heddlu.
Yn ôl y llu fe wnaeth y dyn ymosod ar y fenyw wrth iddi aros am drên i Ddoc Penfro ac yna eto pan oedd ar y trên.
Fe adawodd y dyn y trên yn Ninbych-y-pysgod tua 15:50.

Fe allai'r dyn sydd yn y llun helpu gydag ymchwiliad i'r ymosodiad, yn ôl yr heddlu
Mae'r heddlu wedi rhyddhau llun o ddyn allai fod â gwybodaeth ar gyfer eu hymchwiliad.
Maen nhw'n apelio am unrhyw wybodaeth bellach ynghylch y digwyddiad.