Dirgelwch mynwent ganoloesol gynnar Bro Morgannwg
- Cyhoeddwyd
Mae archeolegwyr yn crafu eu pennau wedi iddyn nhw ddarganfod mynwent brin, ganoloesol gynnar ym Mro Morgannwg.
Credir ei fod yn dyddio o'r 6ed neu'r 7fed ganrif.
Mae archeolegwyr yn amcangyfrif bod tua 70 o feddi yma, ac mae 18 wedi cael eu cloddio hyd yn hyn.
Mae'r fynwent yn gorwedd mewn cae di-nod ar dir Castell Ffwl-y-mwn (Fonmon Castle), yn agos at Faes Awyr Caerdydd.
Mae’r cloddiad yn rhan o raglen Digging for Britain fydd ar BBC Two nos Iau.
Dros ddau haf, mae tîm y rhaglen wedi bod yn brysur yn tynnu'r haen denau o bridd yn ofalus i ddatgelu'r beddau.
Mae rhai o'r sgerbydau sydd wedi'u cadw'n dda wedi'u canfod yn gorwedd mewn safleoedd anarferol, ac mae eitemau annisgwyl hefyd wedi dod i'r amlwg o'r safle.
Mae'r cloddiad wedi dechrau datgelu mwy am y gymuned hynafol hon, ond mae hefyd yn codi cwestiynau.
Dywed Summer Courts, osteoarcheolegydd o Brifysgol Reading, fod y sgerbydau mewn cyflwr da er eu bod tua 1,500 mlwydd oed.
Mae’n dweud bod y penglogau yn cynnig cliwiau am sut roedd y bobl hyn yn byw ac yn gweithio.
"Mae gennym rai dannedd sydd wedi treulio cryn dipyn mewn ffordd reit rhyfedd, sydd efallai’n dangos bod y dannedd wedi cael eu defnyddio fel offer," meddai.
"Efallai ar gyfer gwaith tecstilau, gwaith lledr neu fasged - maen nhw'n tynnu rhywbeth drwy eu dannedd blaen."
Ond mae rhai o'r sgerbydau yn achosi penbleth - maen nhw'n gorwedd mewn ffyrdd reit amrywiol, rhai ar eu cefnau, sy’n arferol i’r cyfnod, tra bod eraill ar eu hochrau, ac mae ambell un wedi'u claddu yn eu cwrcwd, gyda'u pengliniau yn dynn yn erbyn eu brest.
Dydy archeolegwyr ddim yn siŵr beth mae hyn yn ei olygu.
Mae 'na ddyfalu a oedd y fynwent yn cael ei defnyddio dros gyfnod hir o amser wrth i arferion claddu newid, neu a oedd rhai pobl yn cael eu nodi yn wahanol i eraill?
Mae'r eitemau sydd wedi cael eu darganfod o amgylch y beddau hefyd yn peri syndod i archeolegwyr.
Mae darnau o blatiau a chwpanau wedi'u darganfod, a darnau o asgwrn anifeiliaid sydd wedi cael eu bwtsiera a'u llosgi.
Mae un eitem wir yn dod â'r gymuned hon yn fyw: peg bach wedi’i gerfio a allai fod wedi'i ddefnyddio fel marciwr ar gyfer sgorio mewn gêm, efallai rhywbeth fel sy’n cael ei ddefnyddio mewn gêm fwrdd cribej.
Dywed Dr Andy Seaman, arbenigwr mewn archaeoleg ganoloesol gynnar o Brifysgol Caerdydd, sy'n arwain y tîm cloddio, bod y fynwent hon yn wahanol i fynwentydd nawr gan ei bod hi’n ymddangos nad dim ond lle i waredu'r meirw yw hwn.
"Rydyn ni'n tueddu i feddwl am fynwentydd fel math o fannau caeedig nad ydyn ni'n mynd iddyn nhw mewn gwirionedd, ond mae'n debyg y bydden nhw wedi bod yn eithaf canolog i fywyd yn y gorffennol," esboniodd.
"Nid lle i bobl sy'n cael eu claddu yn unig ydi o, ond mae'n fan lle mae cymunedau'n dod at ei gilydd: maen nhw'n claddu eu meirw, ond maen nhw hefyd yn ymgymryd â mathau eraill o weithgarwch, ac ymarfer cymdeithasol, gan gynnwys bwyta ac yfed - a gwledda."
Y peth mwyaf dryslyd serch hynny yw bod yr eitemau sy'n cael eu darganfod yn awgrymu bod y bobl hyn ymhell o fod yn gyffredin.
Tra’n cloddio, fe ddaeth y tîm o hyd i ddarn o wydr yn gorwedd yn un o’r beddau.
"Mae'n ddarn ag ymyl, yn llestr siâp côn hufen iâ ac yn wydr cain iawn” yn ôl Andy Seaman.
Mae'n credu ei fod yn dod o ranbarth Bordeaux yn Ffrainc.
Nid dyma'r unig eitem a fewnforiwyd. Mae'r tîm hefyd wedi dod o hyd i ddarnau o grochenwaith, o Ogledd Affrica o bosibl.
Mae ansawdd y darganfyddiadau hyn yn awgrymu bod y bobl yno o statws uchel.
Yn ôl Tudur Davies, o Brifysgol Caerdydd: "Y dystiolaeth sydd gennym yma yw bod gan y bobl fynediad at nwyddau wedi'u mewnforio o ansawdd uchel iawn, na allwch eu cael ond trwy fasnachu neu gyfnewid, gyda phobl â llawer o gyfoeth, i ddod â nhw yma.
"Beth yn union sy'n digwydd? Pwy yw'r bobl hyn sydd wedi eu claddu yma?"
Bydd ymchwil pellach yn cael ei gynnal i gael dyddiad mwy manwl ar gyfer pryd roedd y fynwent yn cael ei defnyddio, a bydd dadansoddiad DNA yn datgelu mwy am y sgerbydau a gladdwyd yno.
Bydd y fynwent, a’r gymuned oedd yn byw yma, yn helpu i daflu goleuni ar gyfnod nad oes fawr iawn o wybodaeth amdano.