Penodi Nelson Jardim yn rheolwr newydd Casnewydd

Nelson JardimFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Nelson Jardim â'r Alltudion fel prif hyfforddwr yn wreiddiol, yn gynharach ym mis Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd wedi penodi Nelson Jardim fel eu rheolwr newydd.

Mae'r gŵr o Bortiwgal yn olynu Graham Coughlan, a adawodd Rodney Parade ym mis Mehefin wedi i'r clwb ddweud eu bod eisiau symud "i gyfeiriad gwahanol".

Fe ymunodd Jardim â'r Alltudion fel "prif hyfforddwr" yn y lle cyntaf, yn gynharach y mis hwn, ond fe ddywedodd y clwb ar y pryd eu bod "yn parhau i chwilio" am reolwr newydd.

Mae Jardim eisoes wedi bod yn gyfrifol am y paratoadau cyn dechrau'r tymor newydd yn Adran Dau.

Dywedodd cadeirydd Casnewydd, Huw Jenkins, ei fod "eisoes wedi cael effaith fawr" yn yr wythnosau diwethaf, ac wedi "bod yn allweddol o ran helpu creu teimlad cryf, positif o amgylch y clwb".

Mae Jardim wedi treulio cyfnodau fel hyfforddwr gydag Abertawe pan roedd Jenkins yn gadeirydd ar yr Elyrch, ac mae hefyd wedi gweithio gyda chlybiau Caerlŷr, Nacional yn Sbaen, Birmingham City a Maritimo B ym Mhortiwgal.