Ben Davies: Seren gyndyn Cymru

Ben DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ben Davies wedi ennill 84 o gapiau dros Gymru

  • Cyhoeddwyd

Seren gyndyn yw Ben Davies. Ef yw'r graig y mae amddiffyn Cymru wedi'i hadeiladu o'i chwmpas, a'r chwaraewr presennol sydd wedi chwarae hiraf i Tottenham, ond nid yw Davies yn cael ei ddathlu fel eraill.

Mae hynny'n rhannol ar bwrpas gan y gŵr 30 oed, sy'n hapus i gyd-chwaraewyr fel Gareth Bale a Harry Kane gymryd y sylw.

Ond er iddo geisio osgoi'r chwyddwydr, mae Davies yn disgleirio - ac mae ei gyfraniadau wedi helpu i newid cwrs hanes ei dimau.

Roedd yna gliriad arbennig yn erbyn Slofacia yn Ewro 2016, a hebddo mae'n bosibl na fyddai esgyniad Cymru i'r rowndiau cynderfynol byth wedi bod yn bosib.

Yna roedd rownd gynderfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2019. Ei ryng-gipiad ef a arweiniodd at gôl hwyr Tottenham i selio un o'r canlyniadau mwyaf dramatig erioed.

Nawr mae Davies yn gapten dros ei wlad - er dim ond yn absenoldeb y capten cyson Aaron Ramsey - mae ychydig yn anoddach iddo fynd heb i neb sylwi.

Bydd Cymru yn edrych i gymryd cam tuag at Ewro 2024 pan fyddan nhw'n croesawu'r Ffindir yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle nos Iau.

Yn Davies, mae ganddynt fodel o gysondeb ac awdurdod tawel, chwaraewr na all ei dîm wneud hebddo.

O gefnogi ar y Vetch i chwarae dros yr Elyrch

Wedi'i eni yng Nghastell-nedd, dangosodd Davies addewid fel chwaraewr rygbi tra'n astudio yn Ysgol Gyfun Ystalyfera ond, fel deiliad tocyn tymor Abertawe, pêl-droed oedd ei gariad go iawn.

Bu'n gwylio chwaraewyr fel Leon Britton ac Alan Tate o'r North Bank yn y Vetch ac, ar ôl symud ymlaen trwy dimau ieuenctid yr Elyrch, buan iawn yr oedd yn cyfeirio at arwyr ei blentyndod fel cyd-chwaraewyr.

"Fe allech chi weld o hyfforddi gyda ni ei fod bob amser yn rhywun oedd eisiau dysgu," meddai Tate.

"Roedd e’n un o'r bechgyn ifanc hynny i ofyn cwestiynau. Ar y cyfan roedd yn dawel ac, a bod yn deg, rydych chi fel y llanc ifanc yn torri i mewn i'r tîm fel arfer. Ben oedd yr hyn rydych chi'n ei weld nawr."

Cododd Davies i’r tîm cyntaf mor gyflym nes ei fod yn dal ar gytundeb ieuenctid, gwerth tua £400 yr wythnos, pan chwaraeodd ei gêm gyntaf yn yr Uwch Gynghrair yn 19 oed ym mis Awst 2012.

Roedd hefyd yn dal i yrru hen Volkswagen Polo, ynghyd â ffenestri roedd rhaid agor â law, er mawr ddifyrrwch i weddill y garfan.

"Daeth hwnnw gan Ashley Williams," meddai Tate. "Roedd Ash yn hoff o’i geir, felly dwi'n meddwl mai fe oedd yr un cyntaf i sylwi fod gan Ben y ffenestri di-drydan, a wnaeth e ddim gadael iddo anghofio. Hynny yw, roedd yn ei atgoffa bob munud o bob dydd!”

Roedd anaf difrifol i'r cefnwr chwith Neil Taylor yn golygu'n fuan iawn mai Davies oedd y dewis cyntaf yn y safle hwnnw.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Ben Davies ei yrfa gydag Abertawe, cyn ymuno a Tottenham yn 2014

Er iddo chware’n dda yno, dywedodd ei reolwr ar y pryd, Michael Laudrup, ei fod yn gweld ei ddyfodol fel amddiffynnwr canol - tra'n darogan hefyd "fe wnawn ni gweld Ben yn un o'r pump neu chwe chlwb gorau yn yr Uwch Gynghrair".

Roedd yn ymddangos bod rheolwr Cymru Chris Coleman yn cytuno. Ar ôl dim ond wyth ymddangosiad i Abertawe, enillodd Davies ei gap cyntaf dros Gymru, gan ddechrau gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn yr Alban.

"Roedd wedi dechrau'n wych i Abertawe ac roeddech chi'n gwybod mai dim ond mater o amser oedd hi nes iddo gael yr alwad i Gymru," meddai Joe Allen, oedd yn nhîm Cymru'r noson honno.

"Roedd yn amlwg ar unwaith ei fod yn smart iawn, yn foi deallus iawn, yn boblogaidd iawn gyda'r chwaraewyr iau, ond hefyd rwy'n meddwl bod holl bechgyn y tîm cyntaf yn ei barchu'n fawr.

"Er efallai nad ef oedd y mwyaf swnllyd, fe allech chi weld ei fod yn dawel hyderus.

"Roedd yn bendant yn un o'r bois yn y grŵp yna roeddech chi'n gwybod y byddai'n aelod allweddol o’r tîm, fel y mae wedi profi yn yr holl flynyddoedd ers hynny."

'Chwaraewr o fri' yn disgleirio yn Ffrainc

Cymerodd Davies ei gamau cyntaf fel pêl-droediwr rhyngwladol ar adeg anodd i Gymru, a gafodd drafferth ar ddechrau cyfnod Coleman yn dilyn marwolaeth ei ragflaenydd Gary Speed.

Gyda chwaraewyr fel Gareth Bale, Aaron Ramsey ac Allen ychydig flynyddoedd ymhellach ymlaen yn eu datblygiad, fodd bynnag, roedd gan Gymru cenhedlaeth newydd addawol.

"Wnaethon ni erioed golli ffydd bod pethau'n gwella ac roedden ni'n symud ymlaen," meddai Allen.

"Fe gawson ni ganlyniadau ofnadwy ond, wrth edrych o gwmpas y garfan, dwi'n meddwl bod pawb yn credu y byddai'r bois yma, gyda'r profiad iawn a gyda digon o amser, yn mynd ymlaen i wneud pethau gwych i Gymru."

Cyflawnon nhw hynny yn Ewro 2016, nid yn unig gan gyrraedd prif gystadleuaeth cyntaf Cymru ers 58 mlynedd ond wedyn cyrraedd rownd gynderfynol gyntaf yn hanes y wlad.

Wrth feddwl am yr haf euraidd hwnnw yn Ffrainc, yr atgofion amlycaf sy'n tueddu i fod yw gôl Hal Robson-Kanu yn erbyn Gwlad Belg, cyfraniadau rhyfeddol Bale, neu'r anthem genedlaethol yn heulwen bendigedig Bordeaux cyn y gêm agoriadol yn erbyn Slofacia.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ben Davies yn atal Marek Hamsik rhag sgorio i Slofacia yn ystod Ewro 2016

Efallai y byddai'r cyfan wedi bod ar chwâl ar ôl dim ond tri munud o'r gêm gyntaf honno, serch hynny, pe na bai Davies wedi ymyrryd.

Roedd Marek Hamsik o Slofacia wedi gwau ei ffordd drwy amddiffyn Cymru ac ergydio heibio'r golwr Danny Ward, ond wedyn ymddangosodd Davies o unman gyda chliriad i wadu gôl sicr.

"Roedd honno'n foment mor allweddol," meddai Allen.

"Fe berfformiodd y garfan gyfan yn wych ond roedd Ben yn sefyll allan i ni. Dim ond 23 oed oedd e ar y pryd ac yn chwarae fel chwaraewr hŷn go iawn. Chwaraewr o fri a gafodd twrnamaint o'r radd uchaf, a roedd e’n wirioneddol sefyll allan."

Pan gollodd Cymru i'r pencampwyr Portiwgal yn y rownd gynderfynol, bu lawer o sôn am absenoldeb Ramsey oedd wedi'i wahardd - ond gellid dadlau bod y ffaith eu bod nhw heb Davies am yr un rheswm yr un mor arwyddocaol.

Yn naturiol, roedd siom bod rhediad epig Cymru wedi dod i ben ond balchder oedd yr emosiwn pennaf ar ôl y chwiban olaf.

Teithiodd y garfan yn ôl i'w canolfan hyfforddi yn Dinard, Llydaw, y bore canlynol. Yno, roedd ganddyn nhw beth prin mewn dyddiadur pêl-droediwr: 24 awr rydd.

"Mae gan Ben ben call arno ond, fel unrhyw un, mae'n mwynhau amser da," meddai Allen.

"Ac yn sicr ar gyda Chymru ry’n ni wedi cael digon ohonyn nhw. Ar ôl yr Ewros roedden ni wrth ein boddau, fe wnaethon ni fwynhau hynny ac roedd Ben yn sicr ymhlith y dathliadau."

Myfyriwr, tad ac 'arweinydd naturiol'

Mae yna fwy i fywyd Davies na phêl-droed yn unig. Mae ganddo radd y Brifysgol Agored mewn busnes ac economeg - gan raddio gyda 2:1 ar ôl astudio am bum mlynedd - a mynychodd uwchgynhadledd Busnes Pêl-droed yr FT fis diwethaf, fel sylwebydd yn hytrach na siaradwr gwadd.

Mae Davies bob amser wedi bod yn hawddgar a chroyw i’w gyfweld - ac mae'n gwmni da pan fydd y meicroffonau i ffwrdd - ond byddai'n well ganddo beidio â siarad amdano'i hun yn hir iawn.

Daeth yn dad am y tro cyntaf y llynedd ond, wrth rannu newyddion personol diweddaraf yn achlysurol ar gyfryngau cymdeithasol, mae Davies yn hoffi cadw ei fywyd preifat yn breifat.

"Dyma'r teimlad gorau yn y byd. Does dim llawer mwy i'w ddweud na hynny, "meddai pan ofynnwyd iddo gan y gohebydd hwn am dadolaeth. "Ychydig o nosweithiau blinedig ond dwi wrth fy modd." Yn gwrtais ag erioed, ond yn gryno.

Er bod Davies yn hapusach i ffwrdd o sylw'r cyhoedd, peidiwch â meddwl ei fod yn swil.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Bel-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ben Davies yn rhoi araith i'w gyd-chwaraewyr ar ol i Gymru guro Croatia

Dangosodd yr amddiffynnwr ei ochr arall, mwy bywiog pan anerchodd ei gyd-chwaraewyr ar ôl buddugoliaeth Cymru dros Croatia fis Hydref diwethaf.

Yng nghanol cylch o chwaraewyr a staff, rhoddodd Davies araith a oedd yn cyfeirio at Yma o Hyd, yn defnyddio’r gân eiconig i ddangos sut roedd Cymru yn dal i sefyll ar ôl ymgyrch ragbrofol gythryblus.

"Ar ben yr holl nodweddion gwych eraill, mae'n arweinydd naturiol go iawn," meddai Allen.

"Mae ganddo ddylanwad aruthrol ar y garfan. Mae hynny wedi bod yn hanfodol yn y gorffennol ac yn dal i fod nawr."

Roedd Davies yn agos at gael ei enwi'n gapten parhaol Cymru pan olynodd Ramsey Bale y llynedd ond, o ystyried absenoldebau cyson Ramsey oherwydd anaf, mae'r amddiffynnwr yn dechrau arfer â gwisgo'r braich.

"Bydd Ben yn gapten yn y dyfodol, pryd bynnag y bydd hynny," dywed rheolwr Cymru, Robert Page.

Mae disgwyl y bydd Davies yn gapten Cymru yn erbyn Y Ffindir ddydd Iau, gyda Ramsey yn debygol o fod ar y fainc wrth iddo ddychwelyd o'i anaf diweddaraf.

Os bydd Ramsey yn gwella'n gynt na'r disgwyl ac yn arwain y tîm allan yn Stadiwm Dinas Caerdydd, fe fydd Davies yno o hyd wrth gwrs - mor bwysig i'r tîm ag erioed - ond nid ar y blaen a'r canol. Yn union fel y mae'n ei hoffi.

Disgrifiad,

Coridor Ansicrwydd: Pwy fydd ymosodwyr Cymru i herio'r Ffindir?