'Colli meddygon gwych drwy fynnu graddau A ac A*'

Mae Dr Llinos Roberts yn rhoi cyngor fel meddyg ar raglen Heno ac wedi cyflwyno cyfres Doctor, Doctor ar S4C
- Cyhoeddwyd
Mae pryder bod disgyblion allai wneud doctoriaid gwych yn peidio mynd i'r byd meddygol gan fod gymaint o bwyslais ar gyrhaeddiad academaidd, a dim digon ar sgiliau hanfodol eraill.
Dywedodd Dr Llinos Roberts, sy'n wyneb cyfarwydd ar S4C, mai tair Lefel A gradd B oedd y gofynion pan aeth hi i astudio meddygaeth yng Nghaerdydd yn 1992 - ond mai tair A neu A* mewn cyrsiau Safon Uwch ydi'r norm ym mhobman bellach.
Ychwanegodd bod rhoi cymaint o bwyslais ar raddau Safon Uwch yn rhoi'r argraff bod cyrsiau meddygol yn elitaidd, a bod disgyblion o rai ardaloedd neu ysgolion yn diystyru meddygaeth fel gyrfa.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi mwy nag erioed yn y gwasanaeth iechyd.
Pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu ac empathi
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd Dr Roberts mai dim ond 5% o fyfyrwyr meddygol sy'n dod o gefndir cymdeithasol economaidd isel.
Er bod prifysgolion wedi gwneud gwaith da i geisio gwella'r sefyllfa dros y blynyddoedd, meddai, mae'r bwlch dal yn enfawr ac mae'n rhaid gwneud mwy.
Dywedodd: "Yr hyn sy'n fy mhoeni i ydi nad oes angen A* ar ddisgybl ysgol i fod yn feddyg da.
"Mae sgiliau llawer mwy pwysig sydd yn gwbl allweddol a chanolog i fod yn feddyg effeithiol - sgiliau cyfathrebu, sgiliau empathi - nad ydyn nhw'n cael eu arholi yn Lefel A."
Straeon perthnasol:
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2024
"Wrth gwrs mae angen gwybod y ffeithiau am fioleg a meddyginiaethau, ond tydi'r ffeithiau yna ddim yn ddigonol os nad ydi rhywun yn gallu cyfathrebu yn effeithiol gyda chleifion.
"Dim ond rhan o'r gofynion ydi'r cymhwyso academaidd ac mae gymaint sydd ddim yn 'neud meddygaeth gallai fod yn feddygon gwych.
"Dwi'n siŵr bod ni'n colli gymaint o dalent yng Nghymru achos ella dydi pobl ddim yn sylweddoli bod meddygaeth yn rhywbeth y gallen nhw ystyried."
Tor calon gweld meddygfeydd yn cau
Yn ystod y cyfweliad, dywedodd bod rhai cymunedau yng Nghymru hefyd yn diodde' gan fod cymaint o feddygfeydd yn cau.
Roedd Dr Roberts yn bartner mewn meddygfa yng Nghwm Gwendraeth am 12 mlynedd. Dros y blynyddoedd aeth nifer y doctoriaid i lawr o chwech i ddau.
Ar ôl methu recriwtio mwy o feddygon a gyda'r pwysau gwaith yn effeithio ar iechyd staff ac yn amharu ar y gwasanaeth i'r cleifion fe benderfynodd gau'r syrjeri.
Dywedodd: "Dros y ddegawd ddiwetha' dwi'n meddwl bod dros 100 o feddygfeydd wedi cau ac mae hynny yn ei hun yn torri nghalon i - pob un o'r meddygfeydd wedi bod yn lle mor bwysig i gymunedau.
"Mae'n sefyllfa erchyll bod 'na gymunedau wedi colli eu meddygfeydd oedd siŵr o fod yn ganolog i fywydau nifer ohonyn nhw."
Dywedodd Dr Roberts mai dim ond un o'r problemau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yw meddygfeydd yn cau. Gyda rhestrau aros yn cynyddu, diffyg gwelyau mewn ysbytai ac amseroedd hir i ddisgwyl am ambiwlans, mae'n rhaid gwneud rhywbeth "chwyldroadol" i adfer y gwasanaeth iechyd.

Roedd Dr Llinos Roberts yn siarad gyda Beti George
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi lefelau uwch nag erioed yn y gwasanaeth iechyd a bod mwy o staff nag erioed yn gweithio i'r GIG.
Ychwanegodd: "Mae arosiadau hir am driniaeth wedi'i chynllunio ac mae'r rhestr aros gyffredinol yn gostwng.
"Y llynedd fe wnaethom ddarparu'r buddsoddiad mwyaf mewn ymarfer cyffredinol ers 2020 ac rydym yn gweithio gyda'r proffesiwn i symud gwasanaethau yn nes at adref i fwy o bobl.
"Rydyn ni'n gwybod bod mwy i'w wneud a byddwn yn parhau i weithio gyda'r GIG i wella mynediad at ofal."
Statws y Gymraeg wedi gwella
Mae Dr Roberts bellach yn gweithio fel meddyg sy'n trin ffoaduriaid a phobl ddigartref yng Nghaerdydd, ac fel darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Yn ystod y cyfweliad dywedodd bod cael meddygon sy'n gallu siarad gyda chleifion yn eu mamiaith yn hanfodol i gyfathrebu effeithiol a bod agweddau tuag at y Gymraeg wedi newid er gwell o fewn y byd meddygol.
Ar ddechrau'r 1990au, fe ddewisodd hi a'i ffrind sefyll eu harholiadau yn y Gymraeg yn Ysgol Feddygol Prifysgol Cymru (wnaeth uno gyda Phrifysgol Caerdydd yn 2004) - oedd yn anarferol ar y pryd - a chael eu "bwlio" gan aelodau o'r staff.
Meddai: "Roedden nhw'n filain. Wrth edrych yn ôl roedd rhai o'r pethau roedden nhw'n deud fyddai chi yn amlwg byth yn gallu deud rŵan.
"Dwi'n cofio un darlithydd yn deud o flaen pawb bod y broses o farcio'r arholiadau wedi cael ei ddal nôl oherwydd bod dwy wedi mynnu cael yr arholiadau yn Gymraeg ac wedi achosi problemau i'r flwyddyn - i gyd yn awgrymu bod ni'n dwy wedi gwneud hyn bron er mwyn creu anghydfod a chreu niwsans. Diffyg dealltwriaeth lwyr."
Gwrandewch ar gyfweliad llawn Dr Llinos Roberts
Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru