Meddygon teulu Cymru yn wynebu 'sefyllfa enbyd'
- Cyhoeddwyd
"Roeddwn i'n teimlo euogrwydd, tristwch enfawr - a theimlo fy mod i wedi methu."
Dyna'r siom brofodd Dr Llinos Roberts ar ôl iddi orfod rhoi'r gorau i fod yn feddyg teulu yn Sir Gaerfyrddin 'nôl ym mis Ebrill.
Fe fuodd hi'n rhedeg ei meddygfa am 12 mlynedd.
"Pan 'nes i ddechrau bod yn feddyg teulu yn y Tymbl a Cross Hands, fy ngobaith i oedd y bydden i'n ymddeol yno. I ddechrau oedden ni'n chwech o bartneriaid mewn practis hynod o braf mewn cymuned fendigedig i weithio ynddi.
"Ond dros y blynyddoedd fe gollon ni bartneriaid ac yn y diwedd oedde' ni lawr i ddau.
"Mi oedde' ni'n cael ein cefnogi gan locums [meddygon dros-dro]... ond doedden ni ddim yn meddwl bod hynny'n saff i gleifion neu'n cyrraedd safon y gofal yr oeddem ni am ei gynnig."
- Cyhoeddwyd14 Mehefin
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
- Cyhoeddwyd28 Mehefin
Ond nid yn unig y pryder am safon y gofal i gleifion berswadiodd Dr Roberts i wneud y "penderfyniad anodd iawn" i drosglwyddo allweddi ei meddygfa yn ôl i'r bwrdd iechyd lleol.
Roedd hi'n poeni'n arw hefyd am ei hiechyd a'i lles ei hun.
"Roedd yr oriau gwaith [erbyn y diwedd] yn hir iawn a doeddwn i ddim yn gadael y feddygfa ambell waith nes 23:00. Ac mi oeddwn i'n teimlo'r pwysau parhaol hwnnw i sicrhau bod y gwaith dyddiol yn cael ei wneud."
Ond dyw'r profiad hwn ddim yn eithriadol - gydag ystadegau swyddogol yn dangos fod tua 100 o feddygfeydd yng Nghymru wedi cau mewn cyfnod o ychydig dros ddegawd.
Sefyllfa 'enbyd'
Mae'n sefyllfa'n "enbyd" yn ôl Cymdeithas Feddygol y BMA yng Nghymru, sy'n dadlau fod y straen ar feddygfeydd yn cael "effaith torcalonnus" ar feddygon a chleifion.
Yn ôl arolwg diweddara'r gymdeithas o feddygon teulu dywedodd 91% o'r ymatebwyr eu bod nhw'n methu ateb anghenion cleifion yn rheolaidd oherwydd baich gwaith.
Yn ôl yr arolwg, gafodd ei gynnal ym mis Ebrill, roedd 87% yn poeni am yr effaith ar ddiogelwch cleifion.
Awgrymodd hefyd fod 53% o feddygon teulu oedd yn 'bartneriaid' - hynny yw, yn rhedeg eu meddygfeydd - yn bwriadu "gadael" o fewn tair blynedd; bod rhagor yn dewis gweithio'n rhan amser, a bod gan 80% "bryder mawr" am sefyllfa ariannol eu meddygfeydd.
"Mae cleifion yn gweld diffyg mynediad i feddygon teulu, ac yn aros yn hirach.
"Ledled y wlad maen nhw'n dweud eu bod nhw dan bwysau aruthrol a ddim yn gweld bod dyfodol i'r proffesiwn," medd Dr Ian Harris, Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu y BMA yng Nghymru.
"Mae'r pwysau gwaith wedi cynyddu a'r arian mae meddygfeydd yn ei gael wedi lleihau, ac mae meddygon teulu yn rhoi'r ffidil yn y to oherwydd hynny.
"Mae meddygon teulu yn gorfod brysio trwy'u gwaith. Ry'n ni'n becso am eu llesiant. Mae meddygon teulu yn cynnal 1.6m o apwyntiadau bob mis - sy’n cyfateb i hanner poblogaeth Cymru a dyw'r gweithlu sydd gyda ni ddim yn ddigon."
Cafwyd ymatebion gan 375 o feddygon teulu i'r arolwg - sef 28% o'r meddygon teulu yng Nghymru sy'n aelodau o'r BMA.
'Ofni am fy nhrwydded a fy nghleifion'
Mae'r canlynol yn ddyfyniadau o sylwadau anhysbys a gyflwynwyd i'r arolwg, gafodd eu dewis gan y BMA:
"Mae fy iechyd corfforol a meddyliol yn ofnadwy nawr - a dwi'n ymddeol o fewn 12 mis - llawer cynt nag oeddwn i wedi'i gynllunio. Rwy'n drist o fod yn gadael yr alwedigaeth yr wyf yn ei charu."
"Y llynedd, cefais gyflog o £20k cyn treth, ar ôl talu fy holl staff. Mae'r sefyllfa y tu hwnt i enbyd a does gen i ddim gobaith y gellir achub y gwasanaeth iechyd. Rwy' ond yn cario 'mlaen oherwydd fy mod i'n gwybod y bydd y practis yn cau os fydda' i’n rhoi'r gorau iddi. Dydw i ddim eisiau diswyddo staff."
"Rwy'n wirioneddol bryderus am fy iechyd corfforol a meddyliol personol. Rwy'n eistedd yn fy swyddfa 12 awr y dydd."
"Mae'r proffesiwn ar y pwynt mwyaf peryglus yn fy ngyrfa o 35 mlynedd. Rwy'n ofni efallai na fydd modd adfer y difrod sy'n cael ei wneud nawr. Byddaf yn falch o ymddeol ond yn ofni y byddaf angen gofal iechyd yn y dyfodol."
"Rwy'n ofni am fy nhrwydded a'm cleifion o ystyried y straen presennol."
Llai o feddygfeydd, dim digon o arian
Mae'r BMA hefyd yn poeni fod nifer y meddygfeydd unigol wedi gostwng yn sylweddol, gyda thua 100 wedi cau yng Nghymru ers 2012.
Mae'r Gymdeithas hefyd yn dadlau fod yna ostyngiad o 8.7% i 6.1% wedi bod yn ystod y ddau ddegawd diwethaf i faint o arian sy'n cael ei wario ar wasanaethau meddygon teulu fel canran o'r holl gyllideb iechyd.
Heb "becyn achub" gan Lywodraeth Cymru, mae'r BMA yn dadlau fod meddygon teulu yn wynebu sefyllfa hynod ddifrifol allai beryglu'r gwasanaeth iechyd yn ehangach.
"Tanariannu cronig yw'r clefyd fan hyn - felly ariannu yw'r driniaeth," medd Dr Ian Harris.
"Mae'n rhaid i ni ariannu meddygfeydd i wneud yn siŵr fod y gweithlu 'da nhw i wneud y job yn saff. Achos ar y funud rydyn ni'n gweld gymaint o gleifion bob dydd ac yn dechrau becso nad ydyn ni'n gwneud penderfyniadau saff oherwydd lefel y gwaith sy gyda ni."
'Buddsoddiad yn cynyddu'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod gwaith meddygon teulu'n hollbwysig ac yn cael ei werthfawrogi, a'u bod yn buddsoddi mewn cynlluniau i leddfu'r straen.
"Rydyn ni'n cydnabod y pwysau mae meddygon teulu yn ei wynebu ac wedi clywed cryfder teimlad yr ymgyrch [gan y BMA].
"Rydym yn buddsoddi mewn ffyrdd newydd i bobl gael mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol, gan gynnwys fferylliaeth gymunedol a'r llinell gymorth 111, i helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau hwnnw.
"Mae ein buddsoddiad mewn gwasanaethau meddygon teulu wedi bod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn."
Dadansoddiad ein Gohebydd Iechyd, Owain Clarke
Mae'n amlwg fod gwasanaethau gofal sylfaenol, fel rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd, yn cael trafferth ymdopi â'r galw.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf am y gweithlu, mae yna bron i 2,500 o feddygon teulu cofrestredig yng Nghymru - y ffigwr uchaf erioed gyda mwy o fenywod yn feddygon teulu nag erioed.
Ond mae 'na newid pendant wedi bod yn y modd y mae nifer o feddygon teulu yn dewis gweithio.
Mae llai yn dewis gweithio yn llawn amser a llai fyth yn dewis rhedeg eu meddygfeydd eu hunain.
Ac mae hynny wedi golygu cwymp sylweddol yn nifer y meddygfeydd.
Ond mae'r galw ar y meddygfeydd hynny, yn rhannol oherwydd poblogaeth sy'n heneiddio, yn fwy nag erioed.
Y llynedd fe wnaeth meddygfeydd yng Nghymru dderbyn 27 miliwn o alwadau ffôn, trefnu dros 19 miliwn o apwyntiadau a rhoi 65 miliwn o bresgripsiynau - mewn gwlad â phoblogaeth o 3.1 miliwn.
Ond hyd yn oed os yw'r arian ar gael er mwyn recriwtio mwy o feddygon teulu i lenwi’r bylchau, fydd ‘na ddim datrysiad dros nos.
A hynny gan ei fod yn cymryd degawd a mwy i rywun gymhwyso a hyfforddi i fod yn feddyg teulu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin
- Cyhoeddwyd20 Mehefin
- Cyhoeddwyd28 Mehefin