Beth fyddai cyrraedd yr Euros yn ei olygu i gefnogwyr Cymru?

Cefnogwyr CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 16,000 o docynnau wedi cael eu gwerthu i'r gêm nos Wener - sy'n record ar gyfer gêm gartref i dîm y merched

  • Cyhoeddwyd

Fe allai tîm pêl-droed merched Cymru fod ar fin creu hanes dros y ddwy gêm nesaf.

Buddugoliaeth dros ddau gymal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yw'r hyn sydd ei angen.

Y wobr? Lle yn Euro 2025, a lle i dîm y merched mewn twrnament mawr am y tro cyntaf erioed.

Bydd y dorf fwyaf erioed ar gyfer un o gemau cartref y merched yn bresennol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer y cymal cyntaf nos Wener.

Disgrifiad,

Dywedodd Angharad James yn y gynhadledd i'r wasg cyn y gêm eu bod yn gobeithio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Capten Cymru Angharad James - sy'n chwarae i Reign FC yn Seattle yn yr Unol Daleithiau - ydy un o'r rheiny fydd yn allweddol dros y gemau nesaf.

Nôl yn Sir Benfro, mae ganddi deulu balch iawn.

Dywedodd ei thad, Clive James, bod gwylio ei ferch a’r tîm yn chwarae yn brofiad emosiynol i'r holl deulu.

“Rydyn ni i gyd yn hynod o falch o' hi - mae lot o blood, sweat a tears wedi bod i gyrraedd fan hyn," meddai.

Dywedodd Clive fod y profiad o wylio Cymru gyda'i ferch yn gapten yn "ddirdynnol o'r dechrau i'r diwedd", ac y bydd ei deulu a'i ffrindiau yn gwylio nos Wener.

'Teimlad annisgrifiadwy'

Dywedodd hefyd bod ei fam - mam-gu Angharad, Rose, sy'n 80 oed ac erioed wedi methu gêm gartref - yn edrych ymlaen yn arw at y gêm.

"Gobeithio y bydd hi'n lwcus iddi ddydd Gwener," meddai Clive.

Dywedodd Jayden, brawd Angharad, ei fod yn "anghredadwy o hapus" pan ddaeth i wybod mai ei chwaer fyddai capten Cymru.

"Mae'n anghredadwy y gallai rhywun yn fy nheulu fod yn gapten Cymru," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Clive a Jayden James eu bod yn "anghredadwy o falch" o Angharad

Dywedodd ffrindiau Lily Woodham fod gwylio eu ffrind gorau yn cynrychioli Cymru yn "deimlad annisgrifiadwy".

Yn ôl Tara Male, un o ffrindiau agosaf Lily, mae ei gwylio'n symud ymlaen yn ei gyrfa yn "anhygoel".

“'Dwi wedi bod yn ffrindiau gyda Lily ers 19 mlynedd," meddai.

"Mae gwylio ei thrawsnewidiad o chwarae pêl-droed ar iard yr ysgol i’w gwylio’n chwarae’n broffesiynol yn anhygoel.”

Ffynhonnell y llun, Tara Male
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tara Male (dde) bod gweld ei ffrind yn chwarae i Gymru yn "anhygoel"

Mae cefnogwyr ledled Cymru yn edrych ymlaen at y gêm, ac mae Cerian Jenkins o Aberystwyth yn un ohonyn nhw.

Mae hi wedi bod yn mynychu gemau ers 2021, a dywedodd fod ganddi "bob hyder" y gallan nhw gyrraedd Euro 2025.

"Dwi yn hyderus yn y tîm i gyrraedd yr Euros," meddai.

"Hwn yw’r agosaf maen nhw wedi bod a dwi wir yn credu bod siawns gyda nhw.

"Maen nhw’n dîm o fenywod anhygoel a dwi gyda pob ffydd ynddyn nhw."

Dywedodd hefyd fod bod yn rhan o'r Wal Goch wedi ei hysbrydoli i ddechrau chwarae'r gêm ei hun.

"Mae'r tîm yma mor bwysig i fi. Maen nhw wedi fy ysbrydoli ac wedi rhoi hyder i fi ddechrau chwarae pêl-droed, ac rydw i mor ddiolchgar am hynny."

Ffynhonnell y llun, Cerian Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Cerian gyda phrif sgoriwr Cymru erioed - Jess Fishlock

Rhywun sy’n gwybod sut brofiad yw hi i sgorio i Gymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yw Gloria O’Connell.

Sgoriodd yn y gêm ryngwladol gyntaf erioed i'r merched, yn y dyddiau cyn i'r gamp gael ei chydnabod yn swyddogol gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Fe ddigwyddodd y gêm yn ar ôl i’r gwaharddiad ar bêl-droed merched gael ei godi ar ddechrau’r 1970au.

Gweriniaeth Iwerddon oedd yn fuddugol o 3-2 y diwrnod hwnnw - canlyniad y bydd Cymru'n awyddus i beidio efelychu nos Wener.

“Wnaethon ni ddim chwarae ar gaeau fel maen nhw heddiw,” meddai Gloria.

"Pe bawn i'n gallu cael fy mywyd eto byddwn yn fy elfen - mae'n wych."

Dywedodd Gloria fod "dim byd gwell na rhoi'r crys hwnnw ymlaen dros fy ngwlad".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gloria a Jayne eu capiau rhyngwladol fis diwethaf - bron i 50 mlynedd ar ôl iddyn nhw gynrychioli Cymru

Yn trafod y gêm nos Wener, dywedodd ei bod yn ffyddiog y bydd y tîm yn ennill.

"Rwy'n credu bod gennym ni'r hyn sydd ei angen. Rwy'n meddwl y bydd Jess [Fishlock] yn cael hat-trick," meddai Gloria.

"Os mai fi oedd yn y stafell newid, byddwn i'n codi eu calon nhw ac yn ymladd am bob pêl.

Roedd Jayne 'Tosh' Angove – Hughes bellach – hefyd yn chwarae yn y 1970au, ac fe gafodd ei llysenw ar ôl ei hoff chwaraewr John Toshack.

Dywedodd ei bod yn cofio chwarae i Gymru fel y "dyddiau da", ac yn teimlo "rhan o'r daith".

Dywedodd oni bai am ei chyd-chwaraewyr arloesol, efallai na fyddai'r gêm ble mae hi erbyn heddiw.

Pêl-droed merched 'ar i fyny'

Ers 2021 mae pêl-droed merched yng Nghymru wedi gweld cynnydd o 45% yn y nifer sy'n cymryd rhan.

Yn ystod tymor 23/24, roedd dros 15,898 o ferched a menywod yn cymryd rhan mewn pêl-droed.

Mae'r gemau’r tîm cenedlaethol wedi gweld 198% o gynnydd mewn torfeydd, gan dyfu o 1,800 i 5,370 ar gyfartaledd.

Mae gan Glwb Pêl-droed Tondu United yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr dros 250 o ferched yn chwarae iddyn nhw, ac fe aethon nhw â dros 300 o gefnogwyr i rownd gynderfynol Cymru fis diwethaf.

Dywedodd Joe Powton, cyfarwyddwr y clwb fod llwyddiant tîm merched Cymru wedi cael effaith ar nifer y chwaraewyr yn y clwb.

"Dwi'n meddwl bod yr hen syniad ystrydebol na fydd merched yn mynd allan i chwarae yn y glaw a'r oerfel ddim yn wir," meddai.

"Fe fyddan nhw'n bendant yn gwneud."

Disgrifiad o’r llun,

Mae (o'r chwith uchaf gyda'r cloc) Gwennan, Caitlin, Amelie ac Esmae wedi cael eu hysbrydoli gan y tîm cenedlaethol

Yn y clwb, mae'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr yn dweud eu bod yn hyderus y gall Cymru ennill nos Wener.

Mae Gwennan, Caitlin, Esmae ac Amelie i gyd yn dweud mai gallu chwarae gyda'u ffrindiau a sgorio goliau yw eu hoff ran o chwarae pêl-droed.

Mae Jess Fishlock yn ffefryn mawr ganddynt, a sôn am Ffion Morgan hefyd.

Dywedon nhw fod gallu mynd i’r gemau yn wych, a'u bod yn ceisio codi calon y chwaraewyr fel rhan o'r dorf.