Cofio mynd i bysgota gyda Jimmy Carter yn 1986
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Mae cyn-Arlywydd Unol Daleithiau America, Jimmy Carter, yn 100 oed ar 1 Hydref 2024.
Ym Mehefin 1986, daeth ar wyliau i Dregaron, a mynd i bysgota gyda’r arbenigwr pysgota byd-enwog, Moc Morgan a’i fab Hywel.
Hywel sydd yn hel atgofion am y profiad "gwahanol":
O America i Dregaron
“Roedd person oedd yn berchen ar fferm yn Nhregaron yn advisor pan oedd Jimmy Carter yn arlywydd. Dyna’r cysylltiad gyda Thregaron,” eglurodd Hywel.
“Roedd e wedi dod i aros gyda’i ffrind. Roedd yr afon Teifi yn mynd drwy’r fferm, felly bysgotodd e ar afon Teifi."
Moc Morgan oedd ‘Mistar Pysgota' Cymru ar y pryd, felly cafodd wahoddiad i fynd i bysgota gyda’r cyn-Arlywydd a’i wraig, Rosalynn. Roedd Moc wedi dod â’i fab 18 oed, Hywel, i ymuno yn yr hwyl.
“Bysgotodd e ar Lyn Clywedog un bore; Dad a Jimmy ar un cwch, a fi a Rosalynn yn y cwch arall," meddai Hywel.
“Daliodd Rosalynn y pysgodyn cyntaf, ac yn ôl y sôn, roedd Jimmy i lawr am 5am y bore wedyn yn trio cael pysgodyn hefyd!
“Roedden ni wedi pysgota ar y Tywi hefyd. Ar yr ail noswaith, roedd gan Dad gyfarfod, felly aeth fi, Jimmy a Rosalynn gyda’n gilydd.”
Profiad gwahanol
Roedd yn brofiad “hollol wahanol”, meddai Hywel, yn enwedig i “fachgen o gefn gwlad”.
“Yn Clywedog, roedden ni mewn convoy, car heddlu o’n blaenau ni a bws mini, ond roedd Jimmy wedi penderfynu neidio mewn i’n car ni. Roedd y dyn security mawr yn dweud 'na'... ond pan mae Jimmy Carter yn dweud, ar bwy ti’n gwrando?!
"Mynd i lawr y lôn, ac edrych yn ôl, a’i wraig a’i ferch yn cael eu taflu i mewn i’r bws mini; pawb yn panicio oherwydd bod Jimmy eisiau mynd i bysgota!
“Anaml mae person yn mynd i bysgota gyda chwe security guard, dyn MI6 yn cario gwn, a marksman ar y mynydd. Roedd e’n agoriad llygad."
'Call me Jimmy'
Mae Hywel yn cofio'n ôl yn hapus am y dyddiau roedd wedi eu treulio gyda chyn-Arlywydd America, neu 'Jimmy'.
“Doedd dim airs and graces na dim. Roedd e ond ond eisiau siarad am bysgota. A ddywedodd e “call me Jimmy”. Pobl hyfryd.
“Roedd e wedi ysgrifennu llyfr am bysgota dros Ewrop, ac mae yna ddwy dudalen yn sôn am bysgota gyda ni. Roedd e wedi llofnodi llyfr yr un i Dad a fi.”
“Dyddiau yma byddai'r stori dros y cyfryngau cymdeithasol, ond doedd neb llawer o’r papurau yn gwybod.
"Ond roedd pawb yn yr ardal yn gwybod; aeth tua 20 ohonon ni i’r Talbot am fwyd un noson. Roedd hi’n amser cyffrous iawn.”
Geirfa
cyn-Arlywydd / former president
pysgota / to fish
arbenigwr / expert
byd-enwog / world-famous
hel atgofion / to reminisce
profiad / experience
berchen ar / to own
cysylltiad / connection
egluro / to explain
ar y pryd / at the time
gwahoddiad / invitation
ymuno / join
dal / to catch
yn ôl y sôn / so the story goes
noswaith / evening
cyfarfod / a meeting
yn enwedig / especially
cefn gwlad / countryside
o'n blaenau ni / in front of us
penderfynu / to decide
neidio / to jump
lôn / lane/road
taflu / to throw
anaml / seldom
gwn / gun
agoriad llygad / eye opener
treulio / to spend
llofnodi / to sign
yr un / each
cyfryngau cymdeithasol / social media
cyffrous / exciting
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd26 Medi
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2016
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2020