Dau gerddwr a gyrrwr car fu farw ger pier Biwmares
- Cyhoeddwyd
Dau gerddwr a gyrrwr car gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad ger pier Biwmares brynhawn Mercher, mae'r heddlu wedi cadarnhau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd Alma, ger pier y dref, am tua 14:45 ar ôl y gwrthdrawiad rhwng dau gerddwr a char Audi A8 llwyd.
Bu farw gyrrwr y car, dyn o ogledd Cymru yn ei 80au, a'r ddau gerddwr - dyn a dynes yn eu 60au nad oedd yn dod o'r ardal - yn y fan a'r lle.
Roedd hynny er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys ac aelodau o'r cyhoedd i'w hachub.
Dywedodd Rhys Morgan Eckley, o Borthaethwy, sy'n gweithio ger y pier, iddo glywed sgrechian y teiars ac yna "y glec fwyaf".
Clywodd "screech y wheelspin wedyn nesh i weld y car jest yn acceleratio".
"Ar ôl gweld fo nesh i sylwi pa mor serious o'dd petha', wrth fynd yn agosach nesh i weld y corff cynta' yn cael CPR ac wedyn nesh i weld yr ail gorff o'dd jest ddim yn symud o gwbl ac wedyn nesh i weld y trydydd corff ar y dde wedyn.
"Ar y dechrau o'dd lot o bobl ddim yn siŵr o be oedd wedi digwydd - o'n i'n clywed un yn gweiddi.
"Mae bendant 'di ysgwyd Biwmares fel tre, lot yn siarad o gwmpas heddiw ond oedd o 'di digwydd mor fast, o'dd 'na jest gymaint o bobl o gwmpas, yr heddlu, ambiwlans a wedyn gweld yr ambiwlans preifat yn dod i nôl y cyrff wedyn - o'dd o'n scene reit dramatig o drist."
Mae'r Aelod Seneddol lleol, Llinos Medi, wedi canmol "gwydnwch cymunedol cryf" y dref, gan ategu apêl yr heddlu ar bobl i beidio â dyfalu beth oedd achos y gwrthdrawiad ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae’n andros o bwysig bod 'na ddim amheuon yn cael eu codi ar y cyfryngau cymdeithasol," dywedodd Ms Medi ar raglen Dros Frecwast.
"Rhaid i ni gofio mae 'na deuluoedd sydd yn chwilio am atebion yn fa'ma a'r peth diwetha' ma' nhw 'isio 'neud ydy darllen yr hyn ma’ rhai yn meddwl sydd wedi digwydd."
Mae angen, meddai, i bobl adael "i’r heddlu a’r arbenigwyr 'neud eu gwaith" a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, yn hytrach, i amlygu'r gefnogaeth sydd ar gael i bawb ynghlwm â'r achos a "bod pawb yna i helpu ei gilydd".
Roedd parodrwydd y gymuned leol i helpu mewn argyfwng yn amlwg, meddai Ms Medi, gyda "neuadd y dref ar agor, y gymuned a gwirfoddolwyr yna, pawb yn g'neud yr hyn fedran nhw er mwyn trio lleddfu 'chydig ar boen y sefyllfa.
"Ond mae o wedi ysgwyd y gymuned... mae’n anodd iawn ystyried sut mae’r teuluoedd yn teimlo, sut mae’r llygaid dystion yn teimlo, sut 'nath y gwirfoddolwyr a 'naeth jyst torchi llewys yn y fan a’r lle a chymryd rheolaeth o’r sefyllfa, sut maen nhw’n dygymod efo’r sefyllfa hefyd."
Dywedodd bod y gwrthdrawiad ddydd Mercher yn "o'n un o'r argyfynga' 'na lle fedrith rhywun ddim cynllunio amdano", a bod "rhywun yn ymfalchïo yn yr unigolion yna sydd wedi jyst camu fewn ac wedi ymdrin â’r sefyllfa yn broffesiynol".
Ychwanegodd bod yr heddlu eisoes wedi rhoi sicrwydd iddi bod cefnogaeth ar gael i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad.
Mae Heddlu'r Gogledd Cymru yn dal i geisio cadarnhau holl amgylchiadau'r digwyddiad, ac yn awyddus i glywed gan bobl sydd heb siarad â nhw eisoes all fod â lluniau dash cam neu gamera drws tŷ.
Dywedodd y Sarjant Emlyn Hughes o'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol eu bod yn cydymdeimlo'n ddwys gyda theuluoedd y tri a fu farw, a'u bod yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
"Bydd gwrthdrawiad ddoe wedi cael effaith ddofn, nid yn unig ar deuluoedd pawb oedd yn rhan ohono, ond ar gymuned ehangach Biwmares.
"Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd cymorth yn lleoliad y gwrthdrawiad a'r rhai, gan gynnwys busnesau lleol, a gynigiodd loches i bawb ynghlwm â'r digwyddiad."
Dywedodd un llygad-dyst wrth y BBC ei fod wedi ceisio rhoi CPR i un cerddwr a'r person oedd yn gyrru'r car.
Esboniodd fod un cerddwr eisoes wedi marw pan gyrhaeddodd o safle'r gwrthdrawiad.
Dywedodd Ifan Jones, oedd hefyd yn ardal y pier pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, ei fod wedi clywed "bang mawr".
“'Nes i weld car oedd 'di parcio wrth ymyl y wal 'ma wrth ymyl y Bulkeley [gwesty], bach o wheelspin a jyst yn dechrau cyflymu a chyflymu a chyflymu ac wedyn yn syth mewn i’r wal 'ma.
“Mi oedd pawb yn rhedeg tuag at y scene... 'Nes i ddim gweld lot mwy ar ôl hynna," meddai wrth Newyddion S4C.
Mae Gareth Williams yn byw ym Miwmares ac yn gweithio yn ardal y pier.
Dywedodd wrth y BBC ei fod wedi cyrraedd y safle tua phum munud wedi'r gwrthdrawiad, a'i fod wedi gweld dau berson yn derbyn cymorth meddygol.
“Y peth cyntaf i mi weld oedd claf ar y llawr yn cael CPR, ac un arall rownd y gornel.
“Mi oedd ‘na oil, disel a dŵr ymhob man a lot o bobl yn trio eu gorau i helpu."
Ychwanegodd bod y parafeddygon wedi “gweithio’n galed” i helpu'r cleifion.
Hefyd ar Dros Frecwast dywedodd aelod o Gyngor Tref Biwmares, Alwyn Rowlands: "Mae'n drist iawn, yn enwedig i deuluoedd y tri sydd wedi'u lladd.
"Dwi'n gyrru bob cydymdeimlad i deuluoedd y tri pherson sydd wedi'u lladd.
"Mae hyn yn ergyd anhygoel i Fiwmares ei hun - digwyddodd y damwain ddim yn bell o'r ffrynt gyda'r pier, felly mae'n siŵr fydd hwnna ar gau."
"O ystyried poblogrwydd y dref yr adeg yma o'r flwyddyn, dywedodd Mr Rowlands ei bod hi'n "syndod... bod cyn lleied o ddamweiniau yma gyda'r holl ymwelwyr".
Ychwanegodd: "Mae hwn yn bendant yn rhywbeth i drafod efo'r cyngor sir yn y dyfodol, ond rhaid i ni adael i'r heddlu gario ymlaen gyda'r gwaith."
Dywedodd maer Biwmares, David Evans wrth raglen BBC Radio Wales Breakfast ei fod "erioed wedi gweld gymaint o gerbydau'r gwasanaethau brys" yn y dref.
Mewn cymuned "fach ond clos", dywedodd bod y marwolaethau "yn newyddion torcalonnus i ni gyd".
Mae perthnasau'r tri fu farw wedi cael gwybod ac mae'r manylion wedi eu hanfon i'r crwner.