Sŵn Llwyfan y Maes yn creu amodau 'annheg' i gorau

Disgrifiad,

Cystadleuwyr ac arweinwyr fu'n rhoi eu barn i Cymru Fyw ar y sŵn o Lwyfan y Maes

  • Cyhoeddwyd

Mae sawl arweinydd côr adnabyddus wedi galw ar yr Eisteddfod i wella'r trefniadau rhwng Llwyfan y Maes a'r pafiliwn.

Daw hyn wrth i sŵn Llwyfan y Maes gael ei glywed yn amlwg yn y Pafiliwn yn ystod cystadlaethau’r corau gyda'r nos.

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, arweinydd côr CF1 fod y sefyllfa yn "annheg" ar y cystadleuwyr.

Dywedodd prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses bod "trafodaethau rhwng y ddau ac os yw'r lefelau yn amharu, mae 'na fodd i holi Llwyfan y Maes ar gyfer newidiadau".

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Daeth côr CF1 yn drydydd yn y gystadleuaeth côr agored nos Fercher

Roedd côr CF1 yn rhan o gystadleuaeth Côr Agored yn y pafiliwn nos Fercher.

Dywedodd eu harweinydd, Eilir Owen Griffiths ei fod wedi gadael y llwyfan yn "hynod o siomedig" gan nad oedd yn gallu clywed cordiau olaf y darn oherwydd y sŵn.

Dywedodd i'r côr "ddelio'n dda iawn" gyda'r sefyllfa, gan ychwanegu: "Dwi jyst ddim yn meddwl fod o'n deg."

"Ni'n gweithio mor galed am fisoedd i gael y corau'n barod ac i wneud shot dda arni, ac mae'r Eisteddfod ei hun yn rhoi ni dan anfantais - dwi'n meddwl ei fod yn annheg."

'Ddim yn brofiad pleserus'

Dywedodd ei fod yn arbennig o anodd ar gyfer y darnau digyfeiliant, gan ddweud "n'a'i gyd o'n i'n clywed oedd y bas yn taro" o Lwyfan y Maes.

Aeth ymlaen i gwestiynu "ydy'r beirniaid actually yn clywed ni?"

"Mae'n 'neud chi feddwl fod yr holl waith yn mynd yn wast.

"Nhw methu clywed ni, ni methu clywed ein hunain."

Ychwanegodd: "Dydi o ddim yn brofiad pleserus."

Er ei fod yn cydnabod ei bod yn "anodd iddyn nhw gynllunio pob elfen" dywedodd bod "daearyddiaeth yn dangos pa mor agos yw'r ddau weithgarwch".

Dywedodd fod y sefyllfa yn "waeth 'leni a neithiwr [nos Fercher] yn benodol iawn, o'n i'n teimlo'n rili flin am y peth, yn enwedig y ddau ddarn ola'".

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Glanaethwy wedi bod yn brysur iawn yn cystadlu trwy'r wythnos

Mae Cefin Roberts, un o gyfarwyddwyr artistig Ysgol Glanaethwy, wedi bod yn brysur yn ystod yr wythnos gyda'r ysgol yn cystadlu mewn tua 20 o gystadlaethau.

Ond roedd o'r farn fod sŵn yn amharu ar y cystadlu yn y pafiliwn a bod "holl reolaeth o gael y tawelwch wedi ei golli".

"Dy'n nhw ddim wedi cau drysau yn y cefn er mwyn cael perffaith chware teg ac ar ben hynny mae 'na gynulleidfa sy'n cerdded mewn ar ganol cystadleuaeth," meddai.

"Mae'r awyrgylch wedi ei chwalu cyn i chi ganu nodyn ac mae wedi digwydd fwy 'leni felly mae 'na le i gwyno."

Er ei fod yn cydnabod ei bod hi'n "Eisteddfod dda" ym Mhontypridd, dywedodd mai dyma "farn gyffredinol gan bob un o'r arweinyddion, 'di o ddim yn rhywbeth personol i rwgnach ynglŷn â fo, 'da ni yma achos da ni'n caru'r Eisteddfod".

'Trafodaethau' yn digwydd

Wrth siarad yng nghynhadledd y wasg ddydd Iau, dywedodd Betsan Moses, prif weithredwr yr Eisteddfod fod 'na "drafodaethau rhwng y ddau ac os yw'r lefelau yn amharu, mae 'na fodd i holi llwyfan y maes ar gyfer newidiadau a phob dim".

"Mi oedd 'na sefyllfa lle roedd pobl yn dod i mewn drwy'r drws cefn, ond ni wedi mynd i'r afael â hynny a sicrhau nad yw'r drysau ar agor pan fod 'na gystadleuaeth yn digwydd."