Caniatâd i droi hen gapel ym Môn yn llety gwyliau

Capel Pen y GarneddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae caniatâd wedi'i roi i droi Capel Pen-y-Garnedd yn llety gwyliau

  • Cyhoeddwyd

Mae caniatâd wedi'i roi i droi capel o'r 19eg ganrif ar Ynys Môn yn llety gwyliau.

Mae cynlluniau i addasu Capel Methodistiaid Calfinaidd Pen-y-Garnedd ym Mhentraeth wedi cael eu cymeradwyo.

Dywedodd Cyngor Ynys Môn y gallai’r eiddo Gradd II gael ei ddefnyddio gan y perchnogion Lee a Sarah Maher ar gyfer rhentu gwyliau “tymor byr”.

Ni fydd modd ei ddefnyddio fel prif breswylfa unrhyw un, na fel llety i unrhyw un am gyfnod o fwy na mis.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Sut fydd y capel yn edrych wedi iddo gael ei adnewyddu, yn ôl y cynlluniau

Cafodd y capel ei godi'n wreiddiol ym 1793, a'i ailadeiladu ym 1824 ac eto yn 1876, yn ôl cronfa ddata Coflein. Cafodd yr adeilad ei restru ym 1968.

Mae'r cynlluniau yn nodi’r bwriad i “ailbwrpasu’r adeilad fel un tŷ preswyl”.

Mae'r cais yn dweud y byddai “ychydig iawn o newidiadau i'r tu allan er mwyn sicrhau bod edrychiad allanol y capel yn cadw ei gymeriad a’i edrychiad”.

'Cadwraeth hirdymor'

Ymhlith y gwaith sydd wedi'i gynllunio, byddai'r nenfwd yn cael ei atgyweirio a'i adael yn agored i'w weld, tra byddai seddi a lloriau'n cael eu tynnu, a'r pren yn cael ei ailddefnyddio ar gyfer paneli wal newydd.

“Y brif nod yw adeiladu llefydd aros tymhorol, ac fe fydd budd cyhoeddus o gynnal ased hanesyddol ar gyfer y tymor hir.

“Mae rhoi’r capel i ddefnydd ymarferol yn golygu y bydd yn cael ei atgyweirio a’i gynnal, sy’n angenrheidiol ar gyfer cadwraeth hirdymor.”

Mae’r cynlluniau’n nodi y bydd y safle’n cynnig “llety sengl eang a deniadol ar raddfa fawr, sy’n ddelfrydol ar gyfer grwpiau ar gyfer hyd at saith i wyth o westeion”.

Pynciau cysylltiedig