Gwahardd cynghorydd Ceredigion am aflonyddu
- Cyhoeddwyd
Mae cyn faer "anghynnes" a anfonodd lythyrau serch ac anrhegion diofyn at sawl menyw wedi ei atal rhag gwasanaethu fel cynghorydd am dair blynedd.
Daeth panel tribiwnlys i'r casgliad bod Steve Davies, cynrychiolydd ward Penparcau ar Gyngor Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth o 2012 ymlaen, wedi torri codau ymddygiad yr awdurdodau ar sawl cyfri.
Fe wnaeth y tribiwnlys ysytried naw digwyddiad gan ddod i gasgliad mewn cyfarfod caeëdig cyn cyhoeddi adroddiad allanol.
Wrth gael ei holi fe gyfaddefodd Mr Davies i lawer o'r honiadau, oedd hefyd yn cynnwys mynd i gartrefi menywod oedd wedi gofyn iddo i beidio â gwneud sylwadau rhywiol.
Ar ben ei ddyletswyddau cyngor, roedd Mr Davies yn lywodraethwr ysgol, yn faer Aberystwyth yn 2017-18, ac yn wirfoddolwr gyda nifer o gyrff a chlybiau.
Dywedodd yr adroddiad ei fod "yn amlwg yn adnabyddus ac â phroffil uchel yn yr ardal".
'Oll rwy' mo'yn Nadolig yw ti'
Fe gwynodd dwy fenyw bod Mr Davies wedi ymweld â nhw'n ddieisiau, gyda'r nos ar brydiau, dod â blodau iddyn nhw a thrin eu gerddi.
Dywed un iddo drafod hoffi bronnau mawr gyda hi, ac roedd yn "anghynnes" yn ôl y llall.
"Doedd dim amheuaeth i'r achosion yma ddigwydd fel y cawson nhw eu disgrifio", medd yr adroddiad.
Fe wrthododd Mr Davies ag ymateb i'r panel heb gael gwybod enwau a cyfeiriadau'r menywod.
Dywedodd menyw arall iddo ymweld â hi yn y gweithle a rhoi anrhegion a chardiau Nadolig iddi gyda negeseuon yn cynnwys "Oll rwy' mo'yn Nadolig yw ti".
Cyfaddefodd Mr Davies iddo anfon yr anrhegion, gan ddweud bod y fenyw "yn bert iawn" ac mai "rhif yn unig yw oedran" mewn ymateb i'r ffaith ei bod yn fenyw ifanc.
'Chwilio am ddioddefwr llai tebygol o gwyno tro nesaf'
Ar achlysur arall fe gwynodd menyw i'r cyngor bod Mr Davies yn ei "haflonyddu a'i stelcio", gan adael "negeseuon serch" ar ei beic, er i'w chymar ofyn iddo beidio.
Fe gafodd yr heddlu wybod am yr achos, medd yr adroddiad. Pan wnaethon nhw siarad gyda Mr Davies, dywedodd y byddai'n "chwilio am ddioddefwr sy'n llai tebygol o gwyno tro nesaf".
Wrth gael ei holi, fe gyfaddefodd iddo adael y negeseuon yn y gobaith "o ddenu sylw".
Roedd yna honiadau hefyd o "sylwadau rhywiol niferus" i wirfoddolwyr cymunedol eraill.
Ni ymatebodd Mr Davies i adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ym Mawrth 2023.
- Cyhoeddwyd9 Hydref
- Cyhoeddwyd29 Ebrill
Cafodd y tribiwnlys ei gynnal yng Ngorffennaf 2023 ac adroddiad y panel ei gyhoeddi fis yn ddiweddarach.
Nododd y dylid gwahardd Mr Davies am chwe mis ond fe ymddiswyddodd o'r ddau gyngor ym mis Hydref y llynedd gan ddweud bod y mater ar gau.
Ond mewn cyfarfod caeëdig ym mis Awst, fe benderfynodd y tribiwnlys i osod gwaharddiad pellach o dair blynedd rhag bod "yn aelod o gyngor neu unrhyw awdurdod perthnasol".
Fe benderfynodd y panel yn unfrydol bod Mr Davies wedi torri codau ymddygiad y cynghorau ar sawl cyfri.