Cyhuddo dyn o geisio llofruddio wedi digwyddiad ym Merthyr

GurnosFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Gurnos am 01:05 fore Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio wedi digwyddiad ym Merthyr Tudful dros y penwythnos.

Cafodd Heddlu'r De eu galw i ardal Gurnos yn y dref am 01:05 fore Sul yn dilyn adroddiad bod dyn 26 oed wedi'i anafu.

Mae Rhys Mews, 25 oed o Gurnos, wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio ac yn parhau yn y ddalfa.

Mae dyn 26 oed o Ferthyr hefyd wedi'i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac yn parhau yn y ddalfa.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.