Dau yn y llys ar ôl i fachgen, 15, gael ei anafu mewn achos o saethu

Cafodd bachgen 15 oed ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad yn ardal Pontprennau ar 7 Mehefin
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad ag achos o saethu mewn tŷ yng Nghaerdydd.
Cafodd bachgen 15 oed ei gludo i'r ysbyty ar ôl dioddef anafiadau oedd ddim yn peryglu ei fywyd mewn digwyddiad yng Nghlos y Ffynnon, Pontprennau nos Sadwrn, 7 Mehefin.
Mae Ashley Fernando Corbin, 20 oed o Fryste, wedi ei gyhuddo o gynllwynio i fod â dryll yn ei feddiant gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol, a chynllwynio i achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
Mae bachgen 17 oed o Fryste - na ellir ei enwi oherwydd ei oedran - hefyd yn wynebu'r un cyhuddiadau.
Ni chafodd ple ei gyflwyno gan y naill na'r llall yn y gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Iau.
Bydd Mr Corbin yn cael ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf ym mis Gorffennaf, a bydd y bachgen 17 oed yn cael ei gadw mewn llety cadw ieuenctid.
- Cyhoeddwyd9 Mehefin
Roedd Mr Corbin hefyd yn wynebu cyhuddiadau ar wahân yn ymwneud â gyrru.
Fe blediodd yn euog i fethu â chynnig sampl i swyddogion wnaeth ei stopio wrth iddo yrru ym Mryste, ac fe blediodd yn ddieuog i yrru yn Weston-super-Mare heb drwydded, yswiriant nac MOT.
Cafodd ei ddedfrydu i chwe wythnos o garchar am beidio â darparu sampl - dedfryd a gafodd ei lleihau i bedair wythnos gan iddo bledio'n euog.
Fe gafodd ei wahardd rhag gyrru am naw mis a 14 diwrnod a gorchymyn i dalu £154.
Ymchwiliad 'cymhleth'
Dywedodd Heddlu'r De fod pedwar o bobl eraill wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, a bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal gyda chefnogaeth Heddlu Avon a Somerset.
Mae dynes 18 oed o Gasnewydd, dyn 18 oed o Gaerdydd a dyn 22 oed o Gasnewydd wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r achos ac maen nhw wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Mark O'Shea fod yr ymchwiliad yn un "cymhleth".
"Rydyn ni wedi rhoi pob adnodd posib i mewn i'r achos yma er mwyn sicrhau ymateb cadarn sy'n adlewyrchu pa mor benderfynol ydyn ni i ddal y bobl hynny sy'n dewis dod â drylliau mewn i'n cymunedau," meddai.
Mae'r heddlu'n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Mae'r ymchwiliad yn parhau.