Canfod carw o'r gogledd wnaeth ffoi o ddathliad Nadolig

Llun o'r carw yn rhedeg lawr y stryd.Ffynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau Crosby
Disgrifiad o’r llun,

Buddy yn denu sylw wrth grwydro'r strydoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae carw o ogledd Cymru a ddihangodd o ddigwyddiad Nadoligaidd ar Lannau Mersi wedi cael ei ddarganfod ar draeth yn Formby.

Cafodd yr heddlu arfog, tîm bad achub, gwylwyr y glannau a môr-filwyr eu galw i chwilio am Buddy ar ôl iddo ddianc o ddathliadau Nadoligaidd.

Drwy gymorth sbienddrych thermol, beiciau cwad a drôn ac offer arbenigol ar gyfer y tywyllwch fe gafodd Buddy ei ddarganfod yn cysgu ar y traeth.

Mae e bellach yn ôl gyda'i berchnogion yng Nghymru.

Yn ôl gwylwyr y glannau yn Southport roedd y digwyddiad yn "rhyfeddol" ac efallai yn addas i'r adeg yma o'r flwyddyn!

Llun o'r carw yn sefyll ar draeth Formby yn y tywyllwch. Ffynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau Crosby
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Buddy ei ganfod ar y traeth gyda chymorth offer arbenigol

Cafodd y milfeddyg gymorth i symud Buddy gan rai môr-filwyr (Royal Marines) a oedd yn ymarfer mewn maes tanio gerllaw.

Wedyn cafodd Buddy ei roi mewn trelar a'i ddychwelyd i'w stabl.

Rhannodd y grŵp Facebook lleol Formby Bubble neges gan berchnogion Buddy, gan ddweud: "Rydym yn hapus i adrodd bod Buddy bellach yn ddiogel, yn gynnes ac yn cysgu'n glyd yn ôl adref yng ngogledd Cymru.

"Ar ôl ei antur annisgwyl ar lan y môr, mae Buddy'n mwynhau gorffwys haeddiannol yn ei stabl glyd ac yn mynd i gymryd pethau'n araf am weddill y flwyddyn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig