Canolfan y Mileniwm i agor safle newydd ar gyfer perfformio digidol

Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu ar y cyd â Chyngor Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cyhoeddi eu bwriad i adeiladu canolfan newydd "arloesol" fyddai'n canolbwyntio ar berfformio digidol.
Bydd y safle newydd yn cynnwys mannau perfformio gyda lle i hyd at 550 o bobl, yn ogystal â chyfleusterau ar gyfer cynhyrchu, ymarfer a hyfforddi.
Y bwriad yw codi'r ganolfan newydd ar safle gyferbyn â Chanolfan y Mileniwm.
Dywedodd y Ganolfan mewn datganiad y byddai'r safle newydd yn "chwyldroi tirwedd y celfyddydau digidol yng Nghymru" ac yn cynnig "platfform i adrodd straeon drwy dechnolegau newydd".

Byddai'r safle newydd yn cael ei adeiladu gyferbyn â'r brif ganolfan
Hwn fydd yr adeilad annibynnol cyntaf i Ganolfan Mileniwm Cymru ei ddatblygu ers i'r brif ganolfan agor nôl yn 2004.
Mae'r cynllun - sydd wedi bod ar waith ers pum mlynedd - yn cael ei ddatblygu ar y cyd â Chyngor Caerdydd.
Bydd gan y Cyngor Sir swyddfeydd ar y safle newydd, a bydd neuaddau arddangos ac ardaloedd cymunedol.
Mae'r ganolfan yn dweud y byddai'r safle hefyd yn rhan o ddatblygiad ehangach 'Caerdydd Fyw'.
Cyfle i 'archwilio ac arbrofi'
Dywedodd Graeme Farrow, Prif Swyddog Creadigol a Chynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, y bydd y safle newydd yn gyfle i artistiaid "wthio'r ffiniau".
“Mae adrodd straeon yn datblygu drwy’r amser. Bydd y gofod newydd hwn yn parhau ein gwaith ar y croestoriad rhwng technoleg a’r celfyddydau, gan alluogi artistiaid i archwilio ac arbrofi gyda ffyrdd aml-gyfrwng o adrodd straeon.
"Bydd ei hyblygrwydd yn sicrhau bod gan artistiaid fynediad at adnoddau newydd sbon i wthio’r ffiniau wrth i offer a thechnolegau newydd ymddangos.
"Rydyn ni’n falch iawn o gynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd creadigol i bobl ifanc ac artistiaid, a chreu canolfan sy’n esblygu gyda’r dirwedd ddigidol sy’n newid yn barhaol.”

Bydd y safle yn cynnwys gofod ar gyfer profiadau ymdrochol – gyda lle i hyd at 550 o bobl
Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, Aelod Cabinet dros Fuddsoddiad a Datblygiad ar Gyngor Caerdydd: "Mae’r prosiect hwn yn rhan fawr o’n huchelgais ar gyfer Caerdydd Fyw a Glanfa Iwerydd – gan yrru’r cyfnod nesaf o sicrhau Bae Caerdydd yn gyrchfan diwylliannol.
"Mi fydd yn crynhoi ein dull o gefnogi cynhyrchu yn ogystal â pherfformio, gan ddarparu cyfleusterau i ddatblygu ein cynnig diwylliannol ein hunain yn ogystal â’n cymunedau lleol."
Mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi'r cytundeb adeiladu i gwmni Goldbeck Construction, ond does dim manylion o ran pryd y mae disgwyl cwblhau'r gwaith ar hyn o bryd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd12 Medi 2015