Nathan Gill yn y llys ar gyhuddiadau llwgrwobrwyo Rwsia

Roedd Nathan Gill yn arweinydd UKIP Cymru am gyfnod, ac fe gafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru yn 2016
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o dderbyn arian yn gyfnewid am wneud datganiadau a fyddai o fudd i Rwsia yn Senedd Ewrop.
Mae Nathan Gill, 51 o Langefni, Ynys Môn, wedi ei gyhuddo o wyth achos o lwgrwobrwyo o dan Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010, ac un achos o gynllwynio i lwgrwobrwyo o dan Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977.
Roedd Mr Gill yn arweinydd UKIP Cymru am gyfnod, ac fe gafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru yn 2016.
Yn Llys Ynadon Westminster ddydd Llun fe wnaeth Mr Gill siarad i gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad yn unig.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Clywodd y llys bod Mr Gill wedi cael ei stopio ym Maes Awyr Manceinion ar 13 Medi 2021 o dan Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch Ffiniau 2019.
Dywedodd cyfreithiwr ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron i dystiolaeth gael ei ganfod ar ffôn Mr Gill oedd yn dangos ei fod mewn "perthynas broffesiynol" gyda chyd-ddiffynnydd a chyn-wleidydd o'r enw Oleg Voloshyn, a'i fod wedi "derbyn arian yn gyfnewid am iddo berfformio gweithgareddau fel Aelod o Senedd Ewrop".
Clywodd y llys gan yr erlynydd Richard Link fod y troseddau honedig wedi eu cyflawni yn ystod cyfnod Mr Gill fel Aelod o Senedd Ewrop, cyn i'r DU adael yn Ionawr 2020.
Fe gafodd Mr Gill ei ethol i Senedd Ewrop fel aelod o UKIP yn 2014, a'i ailethol yn 2019, fel aelod o Blaid Brexit.
Dywedodd Reform UK nad yw Mr Gill yn aelod o'r blaid.
Fe wnaeth yr uwch farnwr rhanbarthol Paul Goldspring ryddhau Mr Gill ar fechnïaeth amodol, sy'n cynnwys gorfod ildio'i basbort yng ngorsaf heddlu Bangor o fewn 24 awr, a pheidio â chysylltu ag Oleg Voloshyn.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn yr Old Bailey ar 14 Mawrth.