Apêl am £40,000 i 'ddiogelu pier Bangor am 25 mlynedd arall'

- Cyhoeddwyd
Mae apêl am £40,000 wedi'i lansio i dalu am waith atgyweirio i ddiogelu un o strwythurau amlycaf Gwynedd.
Mae Cyfeillion Pier y Garth ym Mangor eisiau cwblhau'r gwaith hanfodol ar isadeiledd a strwythur y pier er mwyn ei "ddiogelu am genedlaethau i ddod".
Mae'r strwythur rhestredig Gradd II 1,500 troedfedd - sef yr ail bier hiraf yng Nghymru - wedi sefyll ers 1896.
Mae'n cynnig golygfeydd dros y Fenai, Ynys Môn, Llandudno a mynyddoedd Eryri.
Yn 2022 derbyniodd wobr pier y flwyddyn ar draws y DU, gyda'r beirniaid yn dweud ei fod yn "cynnig y panorama o olygfeydd gorau o unrhyw bier yn y DU".

Mae'r pier yn cynnig golygfeydd dros y Fenai, Ynys Môn, Llandudno a mynyddoedd Eryri
Wedi wynebu bygythiadau o gael ei ddymchwel dros y blynyddoedd, bellach mae'n berchen ac yn cael ei gynnal gan Gyngor Dinas Bangor, wedi i'r corff ei brynu am 1c yn 1975.
Cwblhawyd rhaglen adfer gwerth £1m ar rannau o'r strwythur yn 2022, gyda chefnogwyr y pier yn nodi y byddai'r gwaith diweddaraf yma yn ffurfio cam olaf y prosiect.
'Mi fasa'n dlawd ar Fangor heb y pier'
Gyda'r gobaith o godi £40,000 - a chyngor y ddinas i gynnig £40,000 arall - byddai'n cwblhau'r gwaith o wneud y pier yn ddiogel, ac yn ei alluogi i wrthsefyll stormydd yn y dyfodol.
Y disgwyl yw bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn mis Tachwedd eleni, os bydd y tywydd yn caniatáu.
Dywedodd Avril Wayte, Cadeirydd Cyfeillion Pier y Garth, eu bod nhw eisoes wedi codi tua £3,000 cyn lansio'r apêl yn swyddogol fore Llun.
"Mae'r cyngor wedi gwneud lot o waith yn yr wyth mlynedd dwytha, ond mae 'na ddau section angen cael eu trwsio."

Mae'n ddyletswydd ar y ddinas i ddiogelu'r pier, meddai Avril Wayte
"Da ni really isio fo gael ei wneud eleni, 'da ni wedi gwneud y pier yn fyw ac yn hapus a llewyrchus ond 'da ni isio ei gadw yn saff.
"Mae pobl yn caru'r pier, maen nhw wrth eu bodd.
"Mae ganddon ni 70 o bobl lleol fel volunteers, y nhw sy'n rhedeg y siop a'r ciosg, maen nhw mor frwdfrydig.
"Mae 'na bobl yma ymhob tywydd, mae o'r peth neisia' ym Mangor i fod yn onest.
"Heb y pier mi fasa Bangor yn dlawd ofnadwy, mae'n duty arnon ni i wneud bob dim allwn i gadw fo i fynd."
Dywedodd maer y ddinas, y Cynghorydd Medwyn Hughes, ei fod yn hyderus y byddai'r targed yn cael ei gyrraedd.
"Mae'r hinsawdd yn newid, dydy'r amgylchedd ddim yn ffafriol i strwythur fel hwn felly'r bwriad ydy i gryfhau'r strwythur o dan y platfform.
"Mae diwrnod fel heddiw yn dangos pam ein bod angen yr arian arnon ni allu gwneud hynny.

Y Cynghorydd Medwyn Hughes: "Y pier ydi'r brif atyniad ym Mangor gyn belled a dwi'n y cwestiwn"
"'Da ni wedi cwblhau tri chwarter o'r gwaith, dyma'r chwarter olaf er mwyn ei wneud yn ddiogel ar gyfer y 25 mlynedd nesaf.
"Mae trigolion Bangor wedi rhoi eu dwylo yn eu pocedi dros nifer o flynyddoedd... mae'n rhan o'n hanes a'n treftadaeth.
"Y pier ydi'r brif atyniad ym Mangor gyn belled a dwi'n y cwestiwn, fe gawsom ni dros 100,000 o ymwelwyr y llynedd sy'n nifer sylweddol.
"Yr wythnos diwethaf gafon ni gwpl o Hwngari, ac roeddan nhw wrth eu bodd gyda'r pier.
"Mae'n le gwych i ddod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2022